Brethyn Cymreig yn ysbrydoliaeth i grys hyfforddi newydd CPD Wrecsam

Crys Wxm

Mae patrwm y brethyn Cymreig traddodiadol wedi bod yn ysbrydoliaeth i grys hyfforddi newydd CPD Wrecsam.

Mae'r clwb wedi ymuno mewn partneriaeth gyda'r cwmni hel achau Ancestry.com - ac fe fydd yr enw hwnnw'n ymddangos ar flaen crysau hyfforddi'r clwb ar gyfer tymor 25/26.

Am y tro cyntaf erioed fe fydd crysau newydd Wrecsam yn mynd ar werth yn fyd-eang yr un pryd - gyda digwyddiad yn Wrecsam am 20:00 nos Iau, a digwyddiad yn Times Square yn Efrog Newydd yr un pryd (15:00 amser lleol).

Y coch a gwyn traddodiadol fydd yn parhau fel lliwiau crysau cartref y clwb, sydd wedi ei ddyrchafu i'r Bencampwriaeth.

Brynhawn dydd Iau roedd ciw o bump awr a hanner ar wefan y clwb, gyda chefnogwyr yn aros yn awchus am y cyfle i brynu'r crysau newydd.

Llun: CPD Wrecsam/Ancestry.com

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.