Menyw a wnaeth guddio cyrff dau fabi yn ei chartref wedi osgoi carchar

S4C

Mae menyw oedd wedi cuddio cyrff dau fabi yn ei chartref wedi osgoi carchar.

Roedd Egle Zilinskaite, 31 oed o Gaerdydd wedi cuddio cyrff y babanod yn ei chartref ym Maes-Y-Felin ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Clywodd y llys bod hi wedi rhoi genedigaeth i'r babanod "ar ei phen ei hun, heb gymorth meddygol".

Penderfynodd Zilinskaite, sydd yn fam i bump o blant eraill i guddio ei beichiogrwydd oherwydd "diffyg ymddiriedaeth sylfaenol yn yr awdurdodau, yn y DU ac yn seiliedig ar ei phrofiadau yn Lithwania" lle cafodd ei geni.

Wrth ddedfrydu'r fenyw 31 oed dywedodd y Barnwr Tracey Lloyd-Clarke: "Roeddech chi wedi gwneud penderfyniad bwriadol i beidio ceisio cymorth gan yr awdurdodau achos roeddech ch'n gwybod y byddwn nhw'n gallu cymryd eich plant i ffwrdd pe bai angen.

"Tra eich bod chi wedi cyflawni troseddau difrifol, nid eich bai chi oedd marwolaeth eich plant ac mi 'r ydych chi wedi dioddef marwolaeth dau blentyn tra'n rhoi genedigaeth iddynt."

Cafodd Zilinskaite ddedfryd o ddwy flynedd o garchar wedi ei gohirio am ddwy flynedd.

Bydd angen iddi hefyd gyflawni 200 awr o waith di-dâl a 15 diwrnod o Weithgaredd Adsefydlu.

'Arogl gwael'

Ar 26 Tachwedd 2022 roedd yr heddlu yn chwilio'r eiddo ym Mhen-y-bont ar Ogwr fel rhan o achos gwahanol pan oedd swyddogion wedi sylwi ar "arogl gwael" yn dod o un o'r ystafelloedd fyny grisiau, clywodd y llys.

Wrth chwilio fe ddaeth y swyddogion o hyd i'r babi cyntaf wedi ei orchuddio mewn blancedi a bagiau sbwriel yn yr atig, a'r ail fabi wedi ei orchuddio gan ddillad gwely mewn cwpwrdd.

Yn ddiweddarach, datgelodd archwiliad meddygol fod y plant, a gafodd eu galw yn Babi A a Babi B yn y llys, yn fabanod tymor llawn (wedi eu geni wedi 39 wythnos yn y groth) ac yn blant biolegol i Zilinskaite a'i phartner ar y pryd, Zilvinas Ledovskis, a oedd yn byw gyda hi.

Oherwydd pydredd difrifol y gweddillion, doedd modd canfod beth achosodd eu marwolaethau, clywodd y llys.

Fodd bynnag, dywedodd patholegydd nad oedd yn "afresymol" dod i'r casgliad bod y ddau fabi wedi marw tua'r adeg y cawsant eu geni oherwydd presenoldeb y brych a'r llinyn bogail.

Clywodd y llys fod Zilinskaite wedi rhoi genedigaeth i'r babi cyntaf ym mis Awst 2019 mewn cyfeiriad ar wahân, yna symud y gweddillion i'r tŷ ym Mhen-y-bont ar Ogwr lle ganwyd ail blentyn marw-anedig ym mis Medi 2021.

'Emosiynau'

Yn ystod y gwrandawiad dedfrydu, dywedodd y cyfreithiwr amddiffyn Matthew Roberts wrth y barnwr fod Zilinskaite yn ofni y byddai'n cael ei beio am y marwolaethau ar y pryd.

"Roedd ei hemosiynau ym mhobman, doedd hi ddim yn gwybod beth i'w wneud," meddai.

"Roedd ganddi berthynas anodd gyda'i phartner a oedd yn alcoholig ac a oedd hefyd yn ei cham-drin yn emosiynol."

Plediodd Zilinskaite yn euog i ddau gyhuddiad o guddio genedigaeth plentyn a dau gyhuddiad o atal claddu corff marw yn gyfreithlon ac yn weddus mewn gwrandawiad blaenorol ar Ebrill 10 2024.

Ar y pryd, plediodd ei chyn-bartner Ledovskis, sydd bellach yn 50 oed, o Heol Phoebe yn Abertawe, yn ddieuog i'r un cyhuddiadau.

Cafwyd ef yn ddieuog ar bob cyhuddiad ym mis Mai eleni ar ôl i'r erlyniad ddweud na fyddai'n cyflwyno unrhyw dystiolaeth yn ei erbyn.

Cynhaliwyd angladd ym mis Mai eleni lle claddwyd y babanod, clywodd y llys.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.