
'Hanfodol' i ddysgu plant sut i goginio prydau bwyd iach
'Hanfodol' i ddysgu plant sut i goginio prydau bwyd iach
Mae'n "hanfodol" bod plant yn dysgu sut i goginio prydau bwyd iach yn yr ysgol, yn ôl un athro addysg bwyd.
Yn Ysgol Gyfun Gŵyr yn Abertawe mae Lloyd Henry yn ceisio sicrhau bod disgyblion yn dysgu sut i goginio 24 pryd o fwyd gwahanol erbyn blwyddyn 9.
Mae ymchwil gan Tesco wedi canfod bod 92% o rieni yn cefnogi mwy o addysg bwyd mewn ysgolion.
Yn ddiweddar fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyflwyno dewisiadau newydd mewn ysgolion sydd yn sicrhau bod plant "yn cael cynnig bwyd a diod sy'n gytbwys o ran maeth, a bod bwyta'n iach yn cael ei hyrwyddo mewn ysgolion".
Ers bron i 15 mlynedd mae Lloyd Henry wedi bod yn dysgu mewn ysgolion, a hynny'n dilyn gyrfa ar draws y byd yn y sector lletygarwch.
Dywedodd wrth Newyddion S4C bod y gwersi ymarferol o goginio a dilyn ryseitiau yn wers sydd yn para gydol oes i ddisgyblion ysgol.
“Ma' fe’n hollol wahanol i unrhyw wers ma’ nhw’n cael yn ddyddiol," meddai.
“Ma’ fe‘n hanfodol, ma’ fe’n sgil bywyd, ma’n rhywbeth bydd nhw yn cario ‘mlaen ar ôl adael ysgol.
“So long as ni’n gallu mewnbynnu y sgilie a’r dealltwriaeth hyn o fel i creu pethe a falle ble i gael y cynhwysion o, ma’ fe’n wers sy’ mynd i para nhw am bywyd mwy na ddim byd."
Ychwangeodd Mr Henry: “Ma’ lot fwy o elfennau a pethau trawscwricwlaidd o gwneud rhywbeth eu hunain a wedyn cael y fraint o mynd â fe gatre i ddangos eu rhieni nhw.
“Fi’n meddwl bod y plant yn elwa llawer o cael y profiad ‘na.
“Dyw e ddim sort of fel yn draddodiadol ‘chalk and talk’."

'Helpu ffrindiau'
Mae ymchwil gan Brifysgol Queen's yn Belfast wedi canfod bod 12% o blant rhwng 11 ac 18 yn unig yn bwyta pump o ffrwythau neu lysiau'n ddyddiol.
Un disgybl ysgol sydd wedi bod yn bwyta'n fwy iachus ers dechrau coginio yn yr ysgol ydy Xanthia.
Penderfynodd hi astudio'r pwnc ar gyfer eu cymwysterau TGAU ar ôl mwynhau coginio o flynyddoedd saith i naw.
“Mae’n helpu fi dysgu fwy am pan fi’n coginio a beth i edrych mas am, fel food hygiene a pethau," meddai wrth Newyddion S4C.
“Fi wedyn yn gallu helpu mas ffrindiau achos ma’ lot o ffrindiau yn ddim mor siŵr am beth ni’n neud, wedyn fi’n gallu helpu nhw mas hefyd.
“Nawr fi’n gallu trial coginio bwyd ‘da mam a dad gartref i roi nhw profiad o beth fi wedi bod yn dysgu gyda Mr Henry."
Ychwanegodd: “Fi’n gweld hunain fi pan fi gartref ddim yn mynd am fel microwave meals nawr.
“Fi’n ôl llysiau o’r ffrij ac fi’n ôl pasta a fi’n cymryd awr i greu bwyd mwy iachus am hunain fi ac mae jyst ‘di bod yn help fawr iawn.”

O wneud pasta salad, pice ar y maen a phitsas, mae Lloyd Henry yn sicrhau bod plant yn cael blas ar goginio amryw o fwydydd.
Mae coginio prydau gwahanol wedi ysgogi disgyblion i fod eisiau paratoi bwydydd mwy heriol hefyd.
“Rwy’n mwynhau pam ni’n coginio fel bwydydd aniachus ac iachus fel y pasta neu’r pice ar y maen," meddai Steffan, disgybl blwyddyn 8.
“Fi’n lico coginio lasagna, bydde fi isho trio hwnna a falle pasta bolognese hefyd."
Ychwanegodd Tili o flwyddyn 7: "Dwi’n hoffi coginio amrywiaeth o pethau gwahanol.
“Ni ‘di gwneud pitsa, fel bara brith, o’n ni ‘di creu sgoniau ar dechrau’r blwyddyn hefyd.”
'Ffili dibynnu ar Deliveroo'
Ers saith mlynedd mae Lloyd Henry wedi bod yn aelod o bwyllgor Cymreig y Sefydliad Maeth Prydeinig.
Mae ymchwil y sefydliad wedi canfod nad yw bron i 20% o blant ledled y DU yn cael digon o Fitamin A a ffibr, sydd yn hanfodol i'r system imiwnedd, iechyd croen a lleihau’r risg o ddal heintiau.
Yn ogystal â choginio, mae sawl un o wersi Mr Henry yn canolbwyntio ar ddysgu am fwydydd gwahanol a bod plant yn deall o le mae cynhwysion yn dod.
"Ma' nhw ffili dibynnu arno Deliveroo a gallu mynd i McDonalds neu Subway," meddai'r athro.
“Ma’ fe’n iawn i gael trît yn aml, ond eto ma’ rhaid ti weld gwynebau’r plant hyn pryd ma’ nhw’n trial rhywbeth ma’ nhw ddim ‘di trial o’r blaen a gallu creu e a mynd â fe ‘nôl i’w rheini.
“Ma’ lot o rieni yn gweud ‘o, chi ’di neud hwnna yn ysgol, ma’ nhw’n neud e yn aml nawr adre'.
“Ti’mod ‘na beth yw’r peth fwya’ gore amdano fe."

Salad pasta oedd y pryd mwyaf diweddar i rai o ddisgyblion Ysgol Gyfun Gŵyr i goginio gyda Mr Henry.
Ond ar draws y flwyddyn ysgol maen nhw wedi creu pitsas, byrgyrs iachus, risoto a llawer mwy.
Mae'r plant hefyd yn cael rysáit gyda phob pryd iddyn nhw gadw a chreu yn eu cartref.
“Bydd rhein yn gadael nawr yn gwybod fel i coginio 24 peth wahanol," meddai Mr Henry.
“Ma’ lot o oedolion methu walle coginio 24 peth wahanol."
Ychwanegodd: “Ni yn neud cwpl o rai melys, ond ma’r split falle’n chwech i ddau neu pump i dri.
“Ma’ fe‘n bwysig bod nhw’n coginio pethe sydd yn iachus ond eto pethe bydd nhw yn ail-wneud drosodd a drosodd hefyd."