Ymosodiad Bangor: Bachgen mewn 'cyflwr difrifol' yn yr ysbyty
Mae bachgen 16 oed wedi cael ei gadw yn y ddalfa cyn ymddangos o flaen Llys Ynadon dydd Iau, yn dilyn digwyddiad ym Mangor nos Fawrth.
Cafodd bachgen arall ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol, ac ers hynny, mae wedi cael ei drosglwyddo i ysbyty yn Stoke lle mae'n parhau mewn cyflwr difrifol.
Mae'r bachgen sydd wedi ei gyhuddo, nad oes modd ei enwi am resymau cyfreithiol, wedi'i gyhuddo o anafu bwriadol a bod â llafn mewn man cyhoeddus.
Bydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Llandudno'n ddiweddarach.
Mae'r cyhuddiadau yn ei erbyn yn dilyn ymosodiad difrifol ar Ffordd Llandygai ychydig cyn 20:30 ar y noson.
Dywedodd Arolygydd Ardal Gogledd Gwynedd, Jamie Owens: “Rydym yn gwerthfawrogi bod y digwyddiad hwn wedi achosi pryder yn y gymuned a hoffwn sicrhau trigolion y bydd patrolau cynyddol yn parhau yn yr ardal.
“Rydym yn hynod ddiolchgar i bawb sydd wedi cysylltu â ni dros y 36 awr ddiwethaf. Rydym yn ymwybodol o luniau fideo o'r digwyddiad hwn sy'n cylchredeg ar y cyfryngau cymdeithasol, ac rwy'n annog y cyhoedd i osgoi rhannu'r lluniau hyn ar-lein gan fod achos cyfreithiol bellach ar waith.
“Hoffwn ddiolch i’r holl swyddogion a oedd yn bresennol, cydweithwyr y gwasanaethau brys, ac aelodau’r cyhoedd am eu cymorth yn y fan a’r lle, ac i’r tîm ymchwilio am sicrhau’r cyhuddiadau hyn.”
Dylai unrhyw un a welodd y digwyddiad neu sydd â gwybodaeth a allai gynorthwyo ymholiadau’r heddlu gysylltu gyda swyddogion gan ddyfynnu’r cyfeirnod 25000562293.