Llywodraeth yn ymestyn cynllun tocyn bws £1 i blant ifanc wedi 'tro pedol'
Bydd cynllun a fydd yn galluogi pobl ifanc rhwng 16 a 21 i deithio ar fysiau yng Nghymru am £1 yn cael ei hymestyn i blant ieuengach.
O fis Medi, fe fydd pobl ifanc rhwng 16 a 21 oed yn gallu talu £1 am docyn sengl a £3 am docyn diwrnod.
Ond ar ôl derbyn beirniadaeth am beidio cynnwys plant hyd at 15 oed o fewn y cynllun, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd plant o bump oed i 15 yn gymwysedig am docynnau rhad o fis Tachwedd.
Fis Ebrill, fe wnaeth Plaid Cymru ddisgrifio’r cynllun fel un “hurt”, gan “adael pobl ifanc yn eu harddegau ledled Cymru yn talu mwy i deithio na'u cyfoedion hŷn ar gyfer yr un teithiau.”
Wrth lansio’r cynllun newydd, dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan y byddai’r buddsoddiad yn gwneud “gwahaniaeth gwirioneddol” yng Nghymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.
"Mae torri costau teithio i bobl ifanc a darparu gwell trafnidiaeth i bawb yn un o'n prif blaenoriaethau. Rydym yn cyflawni ein haddewidion i bobl ifanc ledled Cymru,” meddai.
Buddsoddiad
Bydd £15m yn cael ei ddarparu dros ddwy flynedd ariannol (2025-26 a 2026-27) i gefnogi tocynnau bws gwerth £1 i bobl ifanc 16 i 21 oed fel rhan o'r cytundeb Cyllideb gydag Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds.
Bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £7m arall i ymestyn y cynllun i blant pump i 15 oed, o 3 Tachwedd.
Er mwyn cofrestru am y cynllun, fe fydd pobl ifanc yn gallu cofrestru am 'fy ngherdyn teithio am ddim' o 21 Gorffennaf.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: "Rwy'n falch iawn o fod yn lansio cynllun sy'n cynnig teithio bws fforddiadwy i bobl ifanc i'w helpu i gael mynediad at addysg, hyfforddiant, cyflogaeth a hamdden, yn ogystal â chefnogi ein hymdrechion i annog mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, lleihau allyriadau carbon a mynd i'r afael â thlodi.
"Rwyf hefyd yn falch y byddwn yn gallu ymestyn y cynllun i blant pump i 15 oed o fis Tachwedd."
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros drafnidiaeth, Peredur Owen Griffiths bod y Blaid Lafur wedi cyflawni tro pedol ar y cynllun.
“Roedd yn fater o rhaid i alwadau Plaid Cymru gael eu hateb ar hyn - roedd y cynigion gwreiddiol yn hurt, lle fyddai pobl ifanc dan 15 oed yn gorfod talu mwy i ddefnyddio bysiau maen nhw’n dibynnu cymaint arnyn nhw.
"Roedd y penderfyniad annerbyniol hwn yn ganlyniad anffodus i gytundeb funud olaf gan Lafur - yn gorfod dod o hyd i unrhyw ffordd posib i basio eu Cyllideb anuchelgeisiol ac annigonol.”