Apêl o’r newydd ar benblwydd myfyrwraig o Fôn sydd ar goll
Ar wythnos ei phenblwydd mae apêl o’r newydd i ddod o hyd i fyfyrwraig o Fôn sydd wedi bod ar goll ers 2021.
Fe ddiflannodd Catrin Maguire o Gaergybi, oedd yn 22 ar y pryd, ar 15 Tachwedd 2021.
Cafodd Catrin ei gweld sawl gwaith ar gamerâu CCTV yn cerdded trwy Gaergybi i gyfeiriad Ynys Lawd, lle gwelwyd hi gan lygad-dystion yn y prynhawn.
Roedd hi’n gwisgo cot ddu ac yn cario bag lliw golau.
Y noson honno, ar ôl iddi fethu â ffonio’i rhieni, fe ddywedodd ei thad wrth yr awdurdodau ei bod hi ar goll.
Bron i bedair blynedd ers iddi ddiflannu, mae apêl o’r newydd i ddod o hyd iddi.
'Dim atebion'
Y llynedd roedd tad Catrin, Gerry Maguire wedi siarad â rhaglen Y Byd ar Bedwar am ddiflaniad ei ferch.
“Mae fy stumog i’n dal i droi wrth feddwl am y noson honno, a meddwl ‘be ddigwyddodd?’," meddai ar y pryd.
“Mae hi wedi diflannu heb unrhyw gliwiau nac unrhyw atebion.”
Fe wnaeth ef farnu agwedd yr heddlu i'w hymchwiliad o ddod o hyd i Catrin, gan ddweud ei fod wedi “niweidio’r teulu’n emosiynol” a bod eu hymdrech i ymchwilio i’r achos “ddim digon da”.
“Fe wnaethon nhw ychwanegu poen a phryder ofnadwy i ni fel teulu,” meddai wrth raglen Y Byd ar Bedwar ym mis Hydref 2024.
“Dy’n ni ddim yn gallu symud ymlaen oherwydd does dim atebion. Mae’r dirgelwch yn waeth na galar."
Mewn ymateb ar y pryd, dywedodd Gareth Evans, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gogledd Cymru eu bod nhw am “ail-ymddiheuro i deulu Catrin Maguire” a’u bod “wedi dysgu o achosion y gorffennol.”