
'Erioed wedi bod mor falch': Yr ymateb ar ôl i Gymru wynebu Ffrainc yn Euro 2025
Mae prif hyfforddwr Cymru Rhian Wilkinson wedi dweud dyw hi "erioed wedi bod mor falch" ar ôl i Gymru wynebu Ffrainc yn Euro 2025 nos Fercher.
Nid oedd y golled o 4-1 yn erbyn y Ffrancwyr yn adlewyrchu hanes y gêm yn stadiwm St. Gallen.
Er i Les Bleues fynd ar y blaen fe wnaeth Gymru unioni'r sgôr trwy neb arall na Jess Fishlock, a wnaeth greu hanes i Gymru ac i'r Euros.
Sgoriwr gôl gyntaf Cymru mewn prif gystadleuaeth a'r chwaraewr hynaf i sgorio yn yr Euros erioed, ag yntau'n 38 oed.
Dywedodd rhai o gyd-chwaraewyr Fishlock ar ôl y gêm eu bod nhw mor hapus drosti.
“Pwy arall ond Jess Fishlock? Dwi mor hapus iddi hi, foment hi oedd hi," meddai'r capten Angharad James wrth S4C.
“Mae hi wedi gweithio mor galed fel unigolyn dros y 20 mlynedd diwethaf a dwi mor hapus i hi i gael y foment yna.”
Ychwanegodd yr ymosodwr Carrie Jones: “Mae Jess yn hollol, hollol haeddiannol o sgorio ar y llwyfan mawr yma."

'Dewrder'
Er gwaethaf ymdrechion rhyfeddol Cymru wrth amddiffyn, fe gafodd Ffrainc y cyfle i fynd ar y blaen eto gyda chic o'r smotyn ar ddiwedd yr hanner.
Er y diffyg cyflymder wrth gyrraedd cefn y rhwyd, fe lwyddodd Diani i roi Ffrainc yn ôl ar y blaen, gan olygu mai 2-1 i Ffrainc oedd hi ar ddiwedd yr hanner cyntaf.
Fe ddaeth Cymru'n agos i sgorio yn yr ail hanner, ond roedd mwy o gamgymeriadau yn yr amddiffyn wedi rhoi cyfle i Ffrainc sicrhau'r fuddugoliaeth yn gyfforddus.
Er gwaethaf y canlyniad roedd llawer o bethau positif i Gymru gymryd o'r ornest.
Dywedodd Rhian Wilkinson ei bod hi mor falch o'i chwaraewyr.
“Roedd fy 26 chwaraewr Cymru fi wedi rhoi bob dim allan yna heno, a dwi erioed wedi mor falch," meddai.
“Roedden nhw wedi chwarae gyda dewrder, argyhoeddiad a gyda chalonnau dreigiau.”

Cafodd y teimlad hwnnw o falchder ei atgyfnerthu gan Angharad James hefyd.
“Dwi mor balch o’r perfformiad, wnaethon ni gadael popeth allan ar y cae heno.
"Moments gwahanol i’r gêm ddiwethaf a i sgorio gol cyntaf yn yr Euros, mae’n teimlad wych.
“Ond ni’n siomedig gyda’r ffordd wnaeth ni rhoi’r goliau iddyn nhw ond oedd e’n perfformid gymaint yn well na’r un yn y gêm gyntaf.
“Fi mor falch o’r merched a’r squad i gyd."
Dywedodd Carrie Jones bod teimladau cymysg ganddi wedi'r canlyniad.
“Mae’n dipyn bach o mixed emotions," meddai.
"Wrth gwrs bod ni’n siomedig gyda’r canlyniad, ond mae’n tipyn bach yn wahanol achos mae wedi ysbrydoli llawer o pobl yn Cymru a ma’ hwnna’n rhywbeth sbesial iawn."
'Cystadlu'
Cyn-ymosodwr Cymru Gwennan Harries sydd wedi bod yn sylwebu a dadansoddi gemau Cymru i S4C yn ystod yr Euros.
Dywedodd hi ei bod hi'n siomedig bod camgymeriadau wedi arwain at goliau, ond bod Cymru wedi cystadlu gyda Ffrainc.
"Siomedig yn amlwg gyda’r sgôr a rhwystredig bod y camgymeriadau wedi costio ni, ond balchder unwaith yn rhagor," meddai.
"O weld ni fan hyn nos Sadwrn i weld ni’n sgorio ac yn cystadlu am hanner gêm tro yma.
"Ond jyst i cyrraedd y pwynt nesa ni angen cystadlu am yr holl gêm a bod yn well gyda meddiant a gwneud llai camgymeriadau."
Dywedodd cyn-amddiffynnwr Cymru, Danny Gabbidon: “Dwi mor falch o’r perfformiad a’r tîm.
"Dyna’r ffordd ni eisiau gweld tîm Cymru yn chwarae."