Dim Faletau na Costelow wrth i Gymru wneud pedwar newid yn erbyn Japan

Faletau / Costelow

Mae Matt Sherratt wedi gwneud pedwar newid i dîm Cymru ar gyfer yr ail brawf yn erbyn Japan ddydd Sadwrn.

Nid yw'r wythwr profiadol Taulupe Faletau na'r maswr Sam Costelow wedi eu cynnwys yn y garfan.

Dywedodd Matt Sherrat bod gan Faletau anaf, gan olygu nid yw ar gael ar gyfer yr ornest. Aaron Wainwight fydd yn cymryd ei le yn y safle rhif wyth.

Bydd Dan Edwards yn cychwyn yn lle Costelow i ennill ei drydydd cap dros Gymru.

Wedi anaf i Ben Carter mae Freddie Thomas yn dod mewn i safle'r ail-reng wrth ochr Teddy Williams.

Ac mae Archie Griffin wedi ei ddewis fel y prop pen tynn ar ôl i Keiron Assiratti ddioddef anaf, gyda Christian Coleman yn barod i ennill ei gap cyntaf oddi ar y fainc.

Collodd Cymru gêm rygbi ryngwladol am yr 18fed tro yn olynol ar ôl colli yn erbyn Japan o 24-19 penwythnos diwethaf.

Dyma fydd y cyfle olaf i Gymru dod â'r rhediad hwnnw i ben cyn gemau'r hydref, pan fyddent yn herio'r Ariannin, Japan, Seland Newydd a De Affrica.

Yn ymuno â Griffin yn y rheng flaen bydd y prop pen rhydd Nicky Smith a'r capten Dewi Lake, yn safle'r bachwr.

Yn cwblhau’r blaenwyr, bydd Wainwright yn cael cwmni Alex Mann a Josh Macleod yn y rheng ôl.

Yn y cefn, mae Kieran Hardy yn parhau yn safle'r mewnwr ac yn bartner i'w gyd-chwaraewr gyda'r Gweilch, Dan Edwards.

Nid oes unrhyw newidiadau eraill i'r olwyr gyda Josh Adams a Tom Rogers ar yr esgyll, Ben Thomas a Johnny Williams yng nghanol y cae a Blair Murray yn safle'r cefnwr.

Fe allai Coleman, Reuben Morgan-Williams a Keelan Giles chwarae eu gemau cyntaf dros Gymru oddi ar y fainc ar y penwythnos.

Liam Belcher, Gareth Thomas, James Ratti, Taine Plumtree a Tommy Reffell sydd yn cwblhau'r fainc, sydd unwaith eto yn cynnwys chwe blaenwr a dau olwr yn unig.

'Haeddu cyfle'

Wrth drafod ei ddewisiadau ar gyfer y gêm yn erbyn Japan, dywedodd Matt Sherratt bod llawer o chwaraewyr yn haeddu cyfle i chwarae.

"Dwi eisiau newid pethau i fod yn ffres," meddai.

"Felly mae Dan Edwards yn cychwyn fel maswr, mae e wedi ymarfer yn wych dros y tair wythnos diwethaf.

"Mae gan Toby (Faletau) grampiau yn gysylltiedig â straen gwres ar ôl y gêm ddiwethaf, felly roeddem wedi penderfynu mai'r peth gorau fyddai dewis Aaron Wainwright i gychwyn.

"Rydym wedi gwneud rhai newidiadau i'r fainc hefyd, felly dwi'n hapus iawn dros Keelan (Giles) a Reuben (Morgan-Williams). Maen nhw'n haeddu'r cyfle yma'n llwyr."

Wrth edrych ymlaen at ddydd Sadwrn, ychwanegodd Sherratt: “Rwy’n credu ein her fwyaf yr wythnos hon fydd ailadrodd rhywfaint o’r pethau da.

"Yna yn yr 20 munud olaf hynny mae angen ymosod yn fwy effeithiol, efallai bod ychydig yn fwy dewr gyda’r bêl hefyd.

“Rwy’n credu y bydd yn brofiad gwych i’r chwaraewyr o ran awyrgylch ac yn amlwg does dim dianc rhag y gwres.

“Mae’r to ar gau. O brofiad o’r to ar gau yn Stadiwm Principality, gall y bêl fod ychydig yn llithrig.

“Bydd yn boeth, efallai ychydig yn llithrig, ond bydd rhywfaint o awyrgylch oherwydd bod y cefnogwyr yma wrth eu bodd â’u rygbi.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.