Newyddion S4C

Gobeithion Cymru o aros yn Euro 2025 fwy neu lai ar ben

Angharad James / Cymru

Mae gobeithion Cymru o aros yn Euro 2025 yn Y Swistir fwy neu lai ar ben ar ôl colli yn erbyn Ffrainc o 4-1 yn St Gallen nos Fercher. 

Mae buddugoliaeth Lloegr o 4-0 yn erbyn Yr Iseldiroedd yn gynharach yn y dydd yn golygu fod gan y ddau dîm yna dri phwynt, tra fod gan Ffrainc chwe phwynt gydag un gêm ar ôl yn y grŵp. 

Does gan Gymru ddim pwynt ar ôl y ddwy gêm gyntaf yn y grŵp.

Er nad yw'n fathemategol amhosib eto, fe fyddai Cymru angen curo Lloegr gyda gwahaniaeth goliau sylweddol yn ogystal â dibynnu ar Ffrainc i guro'r Iseldiroedd.

Byddai gwahaniaeth goliau Cymru angen bod yn well na'r Iseldiroedd hefyd. 

Dau dîm o Grŵp D fydd yn mynd yn eu blaen i'r wyth olaf.

Dyma'r tro cyntaf i dîm menywod Cymru gyrraedd prif bencampwriaeth. 

Fe wnaeth Rhian Wilkinson bedwar newid i'r tîm a gollodd yn erbyn Yr Iseldiroedd ddydd Sadwrn. 

Safia Middleton-Patel a gafodd ei ffafrio yn hytrach nag Olivia Clark yn y gôl, gyda Rachel Rowe, Kayleigh Barton a Ffion Morgan hefyd yn dechrau yn lle Hayley Ladd, Hannah Cain a Rhiannon Roberts.

Hanner cyntaf

Fel y disgwyl, Ffrainc ddechreuodd gryfaf gan roi pwysau cynnar ar Gymru. 

Daeth y gôl gyntaf i Ffrainc wedi saith munud o chwarae, gyda chic gornel yn dod o hyd i Clare Mateo a lwyddodd i reoli'r bêl cyn ei rhoi yng nghefn y rhwyd.

Ond fe ddaeth eiliad ryfeddol i Gymru wedi 12 munud, gan ennill y bêl a Ceri Holland yn croesi i Jess Fishlock yng nghanol y cwrt cosbi. 

Er fod amheuon am gamsefyll, fe gadarnhaodd VAR fod y gôl yn cyfri, gan olygu fod Cymru wedi sgorio eu gôl gyntaf mewn prif bencampwriaeth.

Yn 38 oed, Fishlock ydy'r chwaraewr hynaf erioed i sgorio yn hanes pencampwriaeth Euros y Menywod.

Image
Jess Fishlock yn dathlu sgorio gol gyntaf Cymru mewn prif bencampwriaeth
Jess Fishlock yn dathlu sgorio gôl gyntaf Cymru mewn prif bencampwriaeth.

Fe wnaeth Ffrainc saith newid i'r tim a enillodd yn erbyn Lloegr ddydd Sadwrn, ac fe welodd Cymru eu cyfle i amlygu'r gwahaniaeth yma. 

Ond Ffrainc oedd yn parhau gyda'r meddiant wrth i'r gêm fynd yn ei blaen yn yr hanner cyntaf.

Er gwaethaf ymdrechion rhyfeddol Cymru wrth amddiffyn, fe gafodd y Ffrancwyr y cyfle i fynd ar y blaen unwaith eto gyda chic o'r smotyn ar ddiwedd yr hanner.

Er y diffyg cyflymder wrth gyrraedd cefn y rhwyd, fe lwyddodd Diani i roi Ffrainc yn ôl ar y blaen, gan olygu mai 2-1 i Ffrainc oedd hi ar ddiwedd yr hanner cyntaf. 

Ail hanner

Doedd dim newid i'r naill dîm ar ddechrau'r ail hanner.

Ond daeth camgymeriad gan Middleton-Patel wedi 52 munud o chwarae drwy oedi a chaniatau i Mateo groesi i Majri i roi Ffrainc ar y blaen o 3-1.

Fe aeth pethau o ddrwg i waeth i Gymru ychydig funudau wedyn, gyda chamgymeriadau yn digwydd yn rhy aml, a Grace Geyoro yn sgorio'r bedwaredd i'r Ffrancwyr.

Daeth Rhiannon Roberts a Hannah Cain ymlaen i Gymru, gyda Lily Woodham a Kayleigh Barton yn gadael y cae. 

Wedi ymdrech arbennig yn yr hanner cyntaf, roedd gan Gymru fynydd i'w ddringo bellach er mwyn ceisio dod yn ôl i'r gêm.

Roedd hi'n ymdrech arwrol gan gapten Cymru Angharad James yn ystod y gêm, gan frwydro tan y diwedd dros ei gwlad. 

Newyddion calonogol i Gymru ac i'r Wal Goch wrth i'r gêm dynnu at ei therfyn oedd gweld Sophie Ingle yn dychwelyd i'r cae ar ôl anaf difrifol i'w phen-glin ym mis Medi y llynedd.

Ond parhau yn 4-1 wnaeth y canlyniad, a Lloegr fydd gwrthwynebwyr nesaf Cymru yng ngêm olaf y grŵp ddydd Sul. 

Byddai angen gwahaniaeth goliau sylweddol yn ogystal â dibynnu ar Ffrainc i guro'r Iseldiroedd er mwyn cael unrhyw gyfle i barhau yn Euro 2025. 

Llun: CBD Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.