Lansio ymchwiliad i ddyfodol Meddygaeth Deulu yng Nghymru

Meddyg teulu

Bydd ymchwiliad yn dechrau ddydd Iau i ddyfodol Meddygaeth Deulu yng Nghymru. 

Bwriad yr ymchwiliad gan Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd ydy cyflwyno argymhellion brys ac ymarferol i Lywodraeth Cymru i ddiogelu dyfodol gwasanaethau meddygaeth deulu. 

Bydd sesiwn dystiolaeth gan aelodau o'r gweithlu meddygaeth deulu ar draws Cymru yn cael ei chynnal, ac fe fydd panel o weithwyr proffesiynol yn rhoi tystiolaeth i'r pwyllgor hefyd. 

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "edrych ymlaen at dderbyn adroddiad y pwyllgor" ac y byddant yn ymateb i'r pwyllgor maes o law. 

Yn ôl Dr James Pink, partner mewn meddygfa deulu, mae trefn y model ariannu yn niweidio gwasanaethau.

"Dyw hyn ddim yn gweithio yng Nghymru mewn gwirionedd, mae’n golygu bod gennym ni broblem yn yr ardal hon lle ni yw’r bwrdd iechyd sy’n cael y lleiaf o arian yn y DU gyfan. Yn amlwg, mae hyn yn effeithio fwyaf ar ein cleifion," meddai.

Ychwanegodd Dr Meilyr Gruffudd: "Rwy’n aml yn gweithio gyda’r nos ac ar fy niwrnodau i ffwrdd. 

"Byddai gallu recriwtio mwy o staff yn helpu... ond allwn ni ddim fforddio eu cyflogi. Mae’r cynnydd yn y taliad Yswiriant Gwladol yn cyfateb i gyflog un aelod o staff."

'Trychineb'

Un o flaenoriaethau Nia Boughton, nyrs ymgynghorol ar gyfer gofal sylfaenol, ydy recriwtio brys ar gyfer gweithlu sy'n agosáu at oed ymddeol.

"Fe hoffwn i weld buddsoddiad yn y gweithlu mewn nyrsio gofal sylfaenol. 

"Mae 50% o’n gweithlu dros 55 oed. Os na fyddwn ni’n gweithredu’n gyflym nawr, fe fyddwn ni’n wynebu trychineb."

Dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd, Peter Fox AS: "Rydym yn cychwyn ar ymchwiliad hanfodol i ddatgelu achosion sylfaenol y pwysau sy’n wynebu ein gwasanaethau meddygaeth deulu. 

"Rydym yn gwybod bod cymunedau ledled Cymru yn teimlo rhwystredigaeth, ac rydym yn benderfynol o wrando, craffu ar yr hyn y mae’r llywodraeth yn ei wneud, ac argymell atebion y mae’n rhaid gweithredu arnynt heb oedi."

Bydd ragor o sesiynau dystiolaeth yn cael eu cynnal o fis Medi ymlaen, gyda'r dystiolaeth yn cael ei chyflwyno i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Jeremy Miles AS, pan fydd y Pwyllgor yn craffu ar ei waith cyn i'r ymchwiliad ddod i'w gasgliad.

Bydd adroddiad, gydag argymhellion y Pwyllgor ynddo, yn cael ei gyhoeddi a'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru i gael ymateb, cyn dadl yn y Senedd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.