
Criw o Ben-y-bont yn ennill dros £3 miliwn ar y loteri
Mae criw o bobl o ardal Pen-y-bont wedi ennill dros £200,000 yr un ar ôl ennill gwobr o £3.6 miliwn yng nghystadleuaeth loteri’r EuroMillions.
Fe enillodd grŵp y West is Best Syndicate wobr o £3.6 miliwn rhyngddynt ar ddydd Gwener 13 Mehefin – gydag 16 aelod yn cael £212,000 yr un.
Cafodd y grŵp ei ffurfio gan Rhian Owen, 44 oed, a rhai cyd-weithwyr, pan yr oeddynt yn gweithio i Gyngor Pen-y-bont ar Ogwr.
“Aeth fy larwm i ffwrdd fore Sadwrn ac edrychais ar fy negeseuon e-bost a gweld fy mod wedi ennill gwobr ar y Loteri Genedlaethol – ond wnes i ddim meddwl llawer amdano,” meddai Ms Owen.
“Yna ar y ffordd i’r gwaith, stopiais y tu allan i siop gan fod rhywbeth yng nghefn fy mhen yn dweud wrthyf i wirio fy nghyfrif.
“Nes i logio mewn a gwelais neges yn dweud ‘hawlio eich gwobr’. Pan nes i sgrolio i lawr a gweld yr holl rifau’n cyfateb, roeddwn i mewn sioc llwyr.
“Nes i alwad fideo i’m chwaer, sydd hefyd yn y syndicet, ac roedd y ddwy ohonom ni’n sgrechian.
“Es i dal i’r gwaith achos doeddwn i ddim yn gwybod beth arall i’w wneud – ond es i adref yn gynnar gan fy mod i ychydig yn benysgafn.”
Cafodd y grŵp ei enwi ar ôl y lleoliad ble’r oedd hi’n gweithio – The West Hub.

Er iddi adael ei swydd, fe wnaeth Ms Owen barhau â’r grŵp drwy ganfod aelodau newydd ar Facebook.
Dathlu
Mae’r mwyafrif o aelodau yn ddieithriaid ac yn gymysgedd o aelodau’r gymuned, gan gynnwys hen ffrindiau, aelodau teulu a chyn hyfforddwr rygbi.
Daeth y grŵp at ei gilydd i ddathlu yn nhafarn y Blaenogwr, gyda sawl un yn cwrdd â'i gilydd am y tro cyntaf.
Mynd ar wyliau yw un o’r prif flaenoriaethau i Ms Owen.
“Dwi am adnewyddu’r tŷ oherwydd mae o wedi bod ar y rhestr ers blynyddoedd,” meddai.
“Dwi wedi bwcio gwyliau teulu ym mis Hydref a da ni’n cynllunio trip mwy efo fy holl chwiorydd, brodyr a rhieni. Mae’n anhygoel gwybod y gallwn ni wneud hyn gyda’n gilydd nawr.”
Fe enillodd chwaer Rhian, Jayne, ddwbl yr arian gan ei bod yn talu am ddwy linell yr wythnos.
Mae hi eisoes wedi prynu fan wersylla ac yn bwriadu talu am waith deintyddol.
Mae cyn hyfforddwr rygbi Ms Owen, Wayne Jenkins, wedi hedfan i Sbaen am fis ac yn dweud ei fod yn bwriadu rhannu ei arian gyda’i blant.
Dywedodd aelod arall o’r grŵp, Jayne Davies, ei bod am ddefnyddio’r arian er mwyn talu am ben-glin newydd.