Cyfnod o dywydd poeth eithafol ar y ffordd i Gymru?
Mae disgwyl i Gymru brofi cyfnod o dywydd poeth eithafol unwaith eto dros y dyddiau nesaf yn ôl rhagolygon gan y Swyddfa Dywydd.
Mae'n debygol mai'r cyfnod yma o dywydd poeth fydd yr un hiraf eleni hyd yn hyn, gyda disgwyl i Gymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon gyrraedd y trothwy ar gyfer cofnodi ton o wres poeth (heatwave).
Er mwyn i don o wres poeth gael ei chyhoeddi gan y Swyddfa Dywydd, mae angen cyrraedd tymheredd trothwy am dri diwrnod yn olynol.
Ar gyfer y mwyafrif o Gymru, 25C ydy'r trothwy ar gyfer hyn.
Ddydd Iau a dydd Gwener, mae disgwyl i rannau o Gymru a Lloegr brofi tymereddau yn y 30au isel.
Y tymheredd uchaf erioed i gael ei gofnodi yng Nghymru oedd 37.1C ym mhentref Penarlâg yn Sir y Fflint ar 18 Gorffennaf 2022.
Mae Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) wedi cyhoeddi rhybuddion melyn ar gyfer canolbarth, de a dwyrain Lloegr tan 15 Gorffennaf.
Maen nhw'n rhybuddio y gallai'r tywydd poeth gael effaith ar bobl fregus a'r gwasanaethau iechyd a gofal sy'n eu cefnogi nhw.
Daw'r cyfnod o dywydd poeth wedi cyfnod sych a phoeth yng ngorllewin a de Ewrop, gyda thanau gwyllt yn llosgi yn ne Ffrainc yn ogystal â rhannau o Sbaen a Groeg.