Carcharu dau o Abertawe am farwolaeth dyn 'annwyl' mewn ymosodiad â photel
Mae dau ddyn o Abertawe wedi cael eu carcharu ar ôl cael eu cael yn euog o lofruddiaeth a dynladdiad mewn cysylltiad â marwolaeth Joshua Norman, 27 oed.
Cafwyd Paul Rosser, 50 oed, o Gendros, yn euog o lofruddiaeth gan reithgor ar 7 Gorffennaf yn dilyn achos yn Llys y Goron Abertawe.
Roedd Mr Norman wedi ei drywanu yn ei wddf gyda darn o botel seidr.
Fe gafwyd Joshua Cullen, 32 oed, o Waun Wen, yn euog o ddynladdiad.
Mae Rosser wedi ei ddedfrydu i garchar am oes gyda lleiafswm o 18 mlynedd a 298 diwrnod.
Mae Joshua Cullen wedi cael ei ddedfrydu i wyth mlynedd yn y carchar.
Trywanu
Clywodd y llys sut y cafodd swyddogion yr heddlu eu galw i Heol Cwm yn Hafod wedi adroddiadau am drywanu ar 11 Medi, 2024.
Daeth yr heddlu o hyd i Joshua Norman gydag anaf difrifol i'w wddf.
Er gwaethaf ymdrechion gorau'r gwasanaethau brys, cyhoeddwyd ei fod wedi marw yn fuan wedyn.
Fe welwyd Rosser yn gadael y lle gan dystion, ac fe gafodd ei ddal yn fuan wedyn gan yr heddlu a'i arestio ar Heol Cwm, lai nag awr ar ôl i'r ymosodiad ddigwydd.
Roedd Rosser gyda gwaed drosto ac roedd ganddo anafiadau i'w wyneb.
Cafodd ei arestio a'i gludo i'r ysbyty i gael archwiliadau cyn cael ei holi a'i gyhuddo'n ddiweddarach.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Lianne Rees o Heddlu'r De: “Dim ond 27 oed oedd Joshua Norman pan gafodd ei fywyd ei gymryd oddi wrtho yn drasig yng ngolau dydd, ar Fedi’r 11eg y llynedd.
“Roedd Joshua yn fab, tad, brawd, nai ac ewythr annwyl iawn. Mae ei deulu’n ei ddisgrifio fel person hardd, y byddai ei wên a’i synnwyr digrifwch yn goleuo unrhyw ystafell.
“Mae teulu Joshua wedi dangos cryfder ac urddas mawr drwy gydol yr ymchwiliad a’r broses gyfreithiol. Mae ein meddyliau gyda nhw heddiw fel y maent wedi bod drwy gydol hyn, a gobeithio y bydd dedfrydau heddiw yn eu helpu i ddod o hyd i rywfaint o gysur wedi'r hyn a fu’n gyfnod anodd iawn.
“Hoffwn roi teyrnged i aelodau’r cyhoedd a’r gwasanaethau brys a oedd yn bresennol ar y diwrnod hwnnw, ac a weithiodd mor galed i helpu Joshua a cheisio achub ei fywyd."