Newyddion S4C

Môn: Dau yn eu harddegau wedi eu hanafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiad tractor

LLanfaethlu

Mae dau fachgen yn eu harddegau wedi dioddef anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad ar Ynys Môn yn ymwneud â thractor brynhawn dydd Mawrth.

Ychydig cyn 13:00 cafodd yr heddlu wybod am wrthdrawiad yn ymwneud â thractor ar ffordd yr A5025 yn Llanfaethlu.

Roedd y ddau berson ifanc gafodd eu hanafu ar y tractor ar y pryd.

Aeth yr heddlu i'r lleoliad ynghyd â Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.

Aethpwyd â'r ddau ddyn ifanc i Ysbyty Gwynedd, ond cafodd un teithiwr ei gludo'n ddiweddarach i ysbyty yn Stoke oherwydd ei anafiadau.

Mae'r heddlu yn apelio ar dystion a allai fod â lluniau camera dashfwrdd i gysylltu gyda nhw trwy wefan yr heddlu neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod 25000561630.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.