Bangor: Arestio tri pherson yn dilyn 'ymosodiad difrifol'
Mae tri pherson wedi eu harestio yn dilyn “ymosodiad difrifol” ym Mangor yng Ngwynedd nos Fawrth.
Cafodd Heddlu'r Gogledd eu galw i Ffordd Llandegai yn y ddinas cyn 20.30 yn dilyn adroddiadau o ymosodiad.
Cafodd person yn ei arddegau ei gludo i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol yn dilyn y digwyddiad.
Mae’r llu wedi cadarnhau bod tri pherson wedi eu harestio ac nad ydyn nhw’n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad.
Mae ymholiadau'r heddlu yn parhau.
Presenoldeb heddlu
Yn ôl Arolygydd Ardal Gogledd Gwynedd, Jamie Owens, bydd swyddogion yn parhau yn ardaloedd Hirael, Maesgeirchen a Stryd Fawr y ddinas er mwyn cadarnhau nad oes “unrhyw risg barhaus” i’r cyhoedd.
Mae fideo o’r digwyddiad wedi ymddangos ar y cyfryngau cymdeithasol, meddai Mr Owens, ac mae’r llu yn annog pobl i beidio â’i rannu.
“Hoffwn ddiolch i aelodau’r gymuned a gysylltodd â’r heddlu neithiwr ac am eu cefnogaeth tra roedd y gwasanaethau brys yn bresennol,” meddai.
“Rwy’n cydnabod yr effaith y gall digwyddiadau fel hyn ei chael ar bobl ifanc, eu teuluoedd a’r gymuned ehangach, ac felly rwyf wedi trefnu mwy o batrolau yn yr ardal dros y dyddiau nesaf.
“Mae’n debygol y bydd cymunedau’n gweld mwy o bresenoldeb yn ardaloedd Hirael, Maesgeirchen a Stryd Fawr Bangor er mwyn tawelu meddwl aelodau’r gymuned.”
Ychwanegodd: “Rwyf hefyd yn ymwybodol bod lluniau fideo o’r digwyddiad hwn yn cael ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol.
“Rwy’n annog y cyhoedd i osgoi rhannu’r lluniau ar-lein, neu ddyfalu ynghylch natur y digwyddiad.
“Gall hyn rwystro’r ymchwiliad ac achosi gofid diangen i’r bobl dan sylw.”
Dylai unrhyw un a welodd y digwyddiad nos Fawrth gysylltu â'r heddlu, gan ddyfynnu'r cyfeirnod C102685.
Llun: Google