
11 yn ymddangos yn y llys mewn achos twyll honedig yn ymwneud â bridio cŵn
11 yn ymddangos yn y llys mewn achos twyll honedig yn ymwneud â bridio cŵn
Mae 11 o bobl wedi ymddangos yn Llys y Goron Abertawe mewn cysylltiad â chyhuddiadau o fridio cŵn anghyfreithlon a thwyll.
Roedd y rheini o flaen y llys yn cynnwys cyn-enillydd Cân i Gymru, Sara Pritchard Davies, a chynghorydd ward Llanwenog yn Sir Ceredigion, Euros Davies.
Mae'r cyhuddiadau yn ymwneud â bod â rhan mewn cynnal busnes yn annibynnol ar unrhyw safle masnachu busnes neu elw at ddiben twyllodrus, sef bridio cŵn, prynu cŵn a’u gwerthu wedi hynny, neu weithgareddau masnachol cysylltiedig eraill yn ymwneud â chŵn.
Plediodd Sara Pritchard Davies, Margaret Ann Jones, Rebecca Ellen Bailey, Euros Davies, Rhydian Davies, Delyth Mathias, Cara Michelle Barrett, a David Benjamin Bethell yn ddi-euog i’r cyhuddiadau yn eu herbyn.
Fe gafodd gwrandawiad ple Thomas John Jones, David Peter Jones a Nerys Davies ei ohirio nes 12 Awst.

Cafodd yr 11 eu rhyddhau ar fechnïaeth ddiamod a bydd gwrandawiad pellach yn Llys y Goron Abertawe ar 2 Medi.
Fe osododd yr Ustus Huw Rees ddyddiad arfaethedig o 9 Tachwedd 2026 ar gyfer achos llys.
Roedd y diffinyddion canlynol o flaen y llys:
- Thomas John Jones, 27 oed, o Brengwyn. Gwrandawiad ple wedi ei ohirio.
- Sara Pritchard Davies, 28 oed, o Brengwyn. Wedi pledio yn ddieuog i ddau gyhuddiad.
- Margaret Ann Jones, 70 oed, o Landysul. Wedi pledio yn ddieuog i un cyhuddiad.
- David Peter Jones, 76 oed, o Landysul. Gwrandawiad ple wedi ei ohirio.
- Rebecca Ellen Bailey, 30 oed, o Langrannog. Wedi pledio yn ddieuog i un cyhuddiad.
- Nerys Davies, 54 oed, o Benrhiwllan. Gwrandawiad ple wedi ei ohirio.
- Y Cynghorydd Euros Davies, 60 oed, o Gwmsychbant. Wedi pledio yn ddieuog i ddau gyhuddiad.
- Rhydian Davies, 27 oed o Brengwyn. Wedi pledio yn ddieuog i ddau gyhuddiad.
- Delyth Mathias, 29 oed, o Gaerdydd. Wedi pledio yn ddieuog i ddau gyhuddiad.
- Cara Michelle Barrett, 39 oed, o Gaerfyrddin. Wedi pledio yn ddieuog i un cyhuddiad.
- David Benjamin Bethell, 37 oed o Saron. Wedi pledio yn ddieuog i un cyhuddiad.
Prif lun: Sara Davies ac Euros Davies yn ymddangos y tu allan i Lys y Goron Abertawe