Treth twristiaeth: Sêl bendith y Senedd i godi £1.30 y noson
Mae’r Senedd wedi rhoi sêl bendith i gynlluniau i godi treth twristiaeth o £1.30 y noson mewn rhannau o Gymru o 2027 ymlaen.
Fe wnaeth aelodau'r Senedd bleidleisio 37-13 o blaid y bil treth twristiaeth a fydd yn golygu bod pobl yn talu’r ffi, yn ogystal â TAW, am arosiadau mewn gwestai, gwely a brecwast a lletyau hunanarlwyo.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei fod yn “ardoll fach” a fydd yn “codi cyllid hanfodol a'i ail-fuddsoddi mewn twristiaeth leol”.
Byddai pobl sy'n aros mewn hosteli a meysydd gwersylla yn talu 75c y pen y noson, gyda phobl dan 18 oed wedi'u heithrio o gyfradd is y dreth.
Byddai'r dreth yn codi tua £33m y flwyddyn pe bai'n cael ei gweithredu ledled y wlad ond bydd y 22 awdurdod lleol yng Nghymru yn cael penderfynu a ddylid cyflwyno'r ardoll yn lleol.
Dim ond dau gyngor, Caerdydd ac Ynys Môn, sydd wedi nodi cynlluniau hyd yn hyn i gyflwyno'r dreth.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford: "Mae ardollau ymwelwyr yn cael eu defnyddio'n llwyddiannus ledled y byd.
“Maen nhw'n sicrhau bod y pwysau a'r cyfleoedd a ddaw yn sgil twristiaeth yn cael eu cydbwyso'n deg rhwng ymwelwyr a thrigolion. Rydyn ni eisiau'r un peth i Gymru.
"Mae'r ardoll yn gyfraniad bach a fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i'n cymunedau, gan helpu i gynnal a gwella'r atyniadau a'r gwasanaethau hynny sy'n gwneud Cymru yn lle mor wych i ymweld ag ef a byw ynddo.
"Drwy bleidleisio i gefnogi'r mesur hwn, mae Cymru yn ymuno â llawer o gyrchfannau eraill ledled y byd sydd eisoes yn elwa ar ardollau tebyg."
Dywedodd Sam Rowlands, ysgrifennydd cyllid cysgodol y Ceidwadwyr, fod y mesur fel un “drwg i Gymru ac yn ddrwg i sector twristiaeth Cymru”.
Gan rybuddio bod yr economi yn wynebu sefyllfa anodd, dywedodd Mr Rowlands y byddai’r dreth dwristiaeth yn effeithio ar swyddi ac yn niweidio’r economi.
Dywedodd Luke Fletcher, ysgrifennydd economi cysgodol Plaid Cymru, fod ei blaid yn cefnogi’r mesur.
“Mae cyfle gwirioneddol yma i ni greu sector twristiaeth gynaliadwy sy’n gweithio gyda’n cymunedau a’n busnesau,” meddai.