Newyddion S4C

Bws tîm Cymru wedi bod mewn gwrthdrawiad yn y Swistir

Bws tîm Cymru wedi bod mewn gwrthdrawiad yn y Swistir

Mae bws oedd yn cludo tîm pêl-droed menywod Cymru wedi bod mewn gwrthdrawiad yn y Swistir.

Mae llefarydd ar ran Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau bod pawb oedd yn teithio ar y bws yn “iawn” wedi’r digwyddiad. 

Roedd y tîm yn cael eu cludo i sesiwn hyfforddi yn stadiwm yn St Gallen cyn eu gêm yn erbyn Ffrainc nos Fercher, meddai’r llefarydd. 

“Diolch byth, mae pawb yn iawn. Yr oll mae hyn yn ei olygu yw ein bod ni wedi gorfod canslo hyfforddi, ac efallai fe wnawn ni rywbeth yn ddiweddarach. 

“Y peth pwysig yw bod y chwaraewyr i gyd a’r staff oedd yn teithio ar y cerbyd yn iawn.” 

Y cerbyd arall

Mae'r Gymdeithas hefyd wedi cadarnhau bod y rheiny oedd yn teithio yn y cerbyd arall ddim wedi eu hanafu'n ddifrifol chwaith. 

Dywedodd prif hyfforddwr tîm pêl-droed menywod Cymru, Rhian Wilkinson, mai'r blaenoriaeth yw cael chwaraewyr Cymru "i gyd at ei gilydd ac i ffwrdd o’r lleoliad ac yna i ail-asesu."

“Mae hwn yn sefyllfa sy’n datblygu ar hyn o bryd, felly rydym yn ceisio bod mor glir a thryloyw â phosibl," meddai. 

“Mae gennym staff gwych a chefnogaeth wych ac rydym yn gwneud yn siŵr bod pawb yn iawn.

“Rydym wedi ein hysgwyd, ond rwyf wedi cael sicrwydd fod pawb yn iawn.

“Rydym wedi paratoi ar gyfer yr annisgwyl a dwi’n credu mai dyna y gallwch chi alw’r sefyllfa yma.” ychwanegodd Wilkinson.
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.