Newyddion S4C

Heddlu'n credu mai Jota oedd yn gyrru'r car a laddodd ef a'i frawd

Cofio Diogo Jota

Mae’r heddlu yn Sbaen wedi dweud eu bod yn credu mai Diogo Jota oedd yn gyrru'r car achosodd farwolaeth ef a’i frawd André Silva mewn gwrthdrawiad yr wythnos diwethaf. 

Bu farw'r tad i dri o blant, oedd yn 28 oed ac yn seren clwb pêl-droed Lerpwl, a'i frawd oedd yn 25 oed ac hefyd yn bêl-droediwr, mewn gwrthdrawiad car yn Sbaen ddydd Iau diwethaf.

Roedd eu car Lamborghini wedi gwyro oddi ar ffordd yr A-52 yn ardal Zamora ar ôl i un o'r olwynion fyrstio am tua 00.40 amser lleol.

Mae llefarydd ar ran y Guardia Civil yno bellach wedi dweud bod profion yn dangos mai Jota oedd yn gyrru’r car pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.

Y grêd yw bod y car wedi bod yn teithio uwchlaw y terfyn cyflymder ar y ffordd, meddai’r llefarydd. 

Yn ôl adroddiadau lleol gan y cyfryngau yn Sbaen, roedd y car wedi bod yn teithio tua 120kmya, sef 74mya.

Dywedodd llefarydd y Guardia Civil bod adroddiad manwl yn cael ei baratoi ar hyn o bryd. 

Ymhlith pethau eraill mae'r heddlu yn astudio yw’r marciau a gafodd eu gadael gan un o olwynion y cerbyd. 

“Mae’r holl brofion sydd wedi cael eu cynnal ar hyn o bryd yn awgrymu mai Diogo Jota oedd gyrrwr y cerbyd.” 

Fe fydd adroddiad i achos y marwolaethau yn cael ei gyflwyno i’r llys yn nhref Puebla de Sanabria, Zamora ar ôl iddo gael ei gwblhau.
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.