
'Dwsinau o gyn is-bostfeistri wedi ystyried hunanladdiad' yn ôl ymchwiliad
Roedd dwsinau o bobl wedi ystyried hunanladdiad oherwydd eu profiadau yn ymwneud â Sgandal Horizon, yn ôl yr ymchwiliad cyhoeddus.
Dywedodd Cadeirydd yr ymchwiliad, y barnwr Syr Wyn Williams sydd bellach wedi ymddeol, fod o leiaf 59 o bobl wedi "ystyried hunanladdiad ar wahanol adegau", gan ddweud mai eu "profiadau gyda Horizon a/neu Swyddfa’r Post" oedd yn gyfrifol am hynny.
Roedd hyn yn "brofiad cyffredin" ymhlith y rhai a gafodd eu herlyn yn ogystal â’r rhai na chafodd eu herlyn, meddai.
Ychwanegodd y barnwr hefyd fod 10 o’r 59 o bobl wedi ceisio'r weithred o ladd eu hunain, gyda rhai pobl yn ceisio gwneud hynny ar fwy nag un achlysur.
Yn ôl adroddiad Syr Wyn, roedd teuluoedd chwech o gyn is-bostfeistri a theuluoedd saith o unigolion eraill nad oedd yn is-bostfeistri wedi honni eu bod wedi lladd eu hunain "yn gyfan gwbl o ganlyniad i Horizon ddangos fod arian ar goll yng nghyfrifon canghennau".
Fe aeth ymlaen i ddweud ei bod yn "bosibilrwydd gwirioneddol" bod 13 o bobl wedi marw o ganlyniad i’w profiadau oherwydd y sgandal.
"Mi ddylwn bwysleisio er na allaf wneud canfyddiad pendant bod cysylltiad achosol rhwng marwolaethau’r 13 o bobl â Horizon, nid wyf yn ei ddi-ystyru fel posibilrwydd gwirioneddol," meddai.
"Mae hefyd yn bosibl bod mwy na 13 o bobl, fel a gafodd ei nodi gan Swyddfa’r Post eu hunain mewn ymateb i geisiadau’r ymchwiliad ym mis Mawrth 2025, wedi marw trwy hunanladdiad ond nad yw rhai marwolaethau wedi’u hadrodd i Swyddfa’r Post na’r ymchwiliad."
'Dychrynllyd'
Yn ei adroddiad fe wnaeth Syr Wyn sôn am yr amrywiaeth o ffyrdd y gwnaeth Sgandal Horizon effeithio ar weithwyr Swyddfa'r Post a'u teuluoedd.
"Bydd bron pob un o’r bobl a gafodd eu cyfweld gan ymchwilwyr Swyddfa'r Post wedi bod mewn sefyllfa gwbl anghyfarwydd a byddan nhw wedi gweld bod y profiad yn drafferthus ar y gorau ac yn ddychrynllyd ar y gwaethaf," meddai yn ei adroddiad.
I'r rhai a gafodd eu carcharu dywedodd bod "bywyd efallai wedi ymddangos bron yn annioddefol" ar adegau.
Dywedodd bod pobl eraill a gafwyd yn euog, ond na gafodd eu carcharu ar gam, yn aml yn wynebu "ymddygiad difrïol gan aelodau o'r cyhoedd".
Roedd y rhai a gafwyd yn euog a roddodd dystiolaeth i'r ymchwiliad wedi sôn am y "problemau seiciatrig a seicolegol a'u plygodd drwy gydol proses archwilio ac ymchwilio Swyddfa'r Post, y broses droseddol ac wedi hynny".
Dywedodd Syr Wyn fod "nifer sylweddol" o'r rhai a gafodd eu herlyn a'u cael yn euog wedi dweud eu bod wedi ystyried hunan-niweidio.
Roedd 19 o bobl wedi dweud eu bod wedi camddefnyddio alcohol, gan ddweud mai eu "profiadau gyda Horizon a/neu Swyddfa'r Post" oedd yn gyfrifol.
Fe gafodd mwy na 900 o is-bostfeistri eu herlyn rhwng 1999 a 2015 wedi i feddalwedd cyfrifo diffygiol Horizon ddangos fod arian ar goll o'u cyfrifon post.

Fe wnaeth Swyddfa'r Post ei hun fynd â sawl achos i'r llys, gan erlyn 700 o bobl rhwng 1999 a 2015.
Y gred yw mai dyma'r achos mwyaf o gamweinyddu cyfiawnder yn hanes system gyfreithiol y DU.
Mae'r rhai a gafodd eu rhyddhau yn dal i wynebu cael eu "heithrio yn eu cymuned leol" meddai'r adroddiad.
Ychwanegodd yr adroddiad, a gafodd ei gyhoeddi ddydd Mawrth, fod is-bostfeistri a gafodd eu hatal neu a gafodd eu contractau wedi’u terfynu wedi "dioddef gofid a phryder" ynghylch colli eu busnes, incwm a’r effeithiau ar eu teulu.
"Fe wnaeth gwragedd, gwŷr, plant a rhieni ddioddef yn sylweddol iawn ar ffurf gofid, pryder ac aflonyddwch (i fywyd cartref, mewn cyflogaeth ac mewn addysg)," meddai'r adroddiad.
"Mewn nifer o achosion, fe wnaeth perthnasoedd dori i lawr, gan ddod i ben mewn ysgariad neu wahanu."
Ac mewn rhai achosion, meddai'r adroddiad, roedd rhieni oedrannus wedi rhoi cefnogaeth ariannol i helpu eu plant oedd yn is-bostfeistri.
"Fe wnaeth rhai o'r rhai a gafwyd yn euog siarad am eu gofid mawr nad oedd rhieni wedi byw i weld eu heuogfarnau'n cael eu diddymu," meddai'r adroddiad.