Ymchwilio i 'eitemau ar goll' wedi tân mewn gwesty ym Mlaenau Ffestiniog
Mae'r heddlu wedi cadarnhau eu bod yn 'ymchwilio i eitemau coll' o westy ym Mlaenau Ffestiniog, ddyddiau yn unig wedi tân dinistriol mewn rhan o'r adeilad.
Mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol, fe ddywed perchnogion gwesty'r Queens eu bod wedi trosglwyddo lluniau o gamerâu CCTV o'r digwyddiad honedig i gynorthwyo'r heddlu gyda'u hymchwiliad.
Fe gadarnhaodd heddlu'r gogledd eu bod wedi cael gwybod am y digwyddiad yn ymwneud ag eitemau coll yng ngwesty'r Queens toc wedi 10.00 fore Mawrth.
Dywedodd llefarydd ar ran y llu eu bod nhw hefyd yn cydweithio gyda’r gwasanaeth tân er mwyn dod o hyd i achos y tân ar y safle.
Mae perchnogion y gwesty hefyd wedi cadarnhau bellach eu bod wedi trefnu i gwmni diogelwch i fonitro'r safle.
Yn y neges ar safle Facebook y gwesty dywed y perchnogion: "Fel teulu, rydym wedi colli popeth, ydych chi eisiau bod y bobl sy'n cymryd yr ychydig iawn o bethau sydd gennym ar ôl."
Mae'r perchnogion hefyd wedi atgoffa pobl fod yr adeilad mewn cyflwr peryglus, gan apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i ddod ymlaen i rannu'r wybodaeth.
Mae Newyddion S4C wedi cysylltu gyda Gwasnaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru am ymateb yn ogystal.