Disgwyl i'r Senedd basio treth £1.30 y noson ar ymwelwyr yng Nghymru
Mae disgwyl i'r Senedd basio cyfraith newydd a fydd yn rhoi'r grym i gynghorau sir allu codi treth ar bobl sy'n aros dros nos yng Nghymru.
Byddai'n golygu y byddai'n rhaid i ymwelwyr dalu £1.30 + TAW am bob noson maen nhw'n aros mewn gwestai, gwely a brecwast a llety hunanarlwyo.
Byddai ymwelwyr sy'n aros mewn hosteli neu feysydd gwersylla yng Nghymru yn talu swm is o 75c + TAW bob noson.
Ni fyddai'n rhaid i bobl o dan 18 oed sy'n aros mewn hosteli a meysydd gwersylla yn y wlad dalu'r dreth.
Mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif y byddai'r dreth yn codi hyd at £33 miliwn y flwyddyn, a hynny er mwyn cefnogi'r diwydiant twristiaeth.
Mae'n debygol y bydd y gyfraith yn cael ei phasio ddydd Mawrth, gan fod Plaid Cymru yn cefnogi cynllun Llafur Cymru.
Er y byddai'r gyfraith yn rhoi'r grym i awdurdodau lleol godi'r dreth eu hunain, nid yw'n ofynnol iddyn nhw wneud hynny, gan roi'r dewis i bob cyngor yn unigol.
Byddai gan y cynghorau hefyd y gallu i adolygu'r gyfradd ar ôl blwyddyn, yn amodol ar gytundeb â Llywodraeth Cymru.
Os yw'r cynlluniau'n cael eu cymeradwyo, byddai'r dreth yn cael ei chyflwyno o 2027 ar y cynharaf.
Y bwriad, meddai Llywodraeth Cymru, yw mynd i'r afael ag effaith twristiaeth ar rai o'r cymunedau yng Nghymru.
Cynghorau lleol fyddai'n penderfynu sut i wario'r arian sy'n cael ei godi drwy'r dreth.
Dadleuol
Er hynny, mae pryderon y gallai'r cynlluniau effeithio ar nifer y bobl sy'n ymweld â'r wlad.
Mae'r Ceidwadwyr eisoes wedi honni y byddai'r cynlluniau yn arwain at lai o bobl yn aros mewn gwestai.
Ond fe wnaeth Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens wfftio honiadau o'r fath ym mis Rhagfyr.
"Mae dros 40 o wledydd ac ardaloedd o gwmpas y byd wedi cyflwyno ryw fath o dreth ymwelwyr, gan gynnwys Groeg, Amsterdam, Barcelona, a California, ac mae llawer ohonan ni wedi talu'r dreth heb hyd yn oed sylweddoli," meddai.
"Bydd yr arian yn helpu i gynnal diwydiant twristiaeth tymor hir hyfyw yng Nghymru. Rwy'n hyderus y bydd Llywodraeth Cymru'n cydweithio gyda busnesau a thwristiaeth i gael hwn yn iawn."
Llun: Tim Johnson