Darganfod 'coedwig fach' o blanhigion canabis ar stryd fawr Bangor
Mae'r heddlu wedi cadarnhau fod ffatri ganabis 'soffistigedig' wedi ei darganfod ar stryd fawr Bangor yng Ngwynedd.
Fe gafodd tîm o swyddogion Heddlu'r Gogledd wybod fod planhigion canabis yn cael eu tyfu yn hen safle siop New Look yn y ddinas ar ddydd Mawrth 1 Gorffennaf.
Fe aeth yr heddlu i'r safle a darganfod digon o goed canabis "i ddechrau coedwig fechan" yng nghyd ag offer a goleuadau i dyfu'r planhigion.
Mae'r heddlu hefyd wedi cadarnhau fod ymchwiliad yn mynd yn ei flaen.
Maent yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am y safle, neu'n ymwybodol o unrhyw unigolion sydd wedi bod yn mynd a dod o'r safle ers Ebrill 2025 i gysylltu.
Dywedodd PC Rylance o Heddlu'r Gogledd: "Rydym wedi ymrwymo i dargedu troseddu difrifol a throseddau sydd wedi eu cynllunio o flaen llaw.
"Fe fyddwn yn targedu'r rhai sy'n benderfynol o ecsbloetio pobl fregus a phlant, a dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth all fod o gymorth gysylltu â ni."
Llun: Heddlu Gogledd Cymru