Newyddion S4C

Norman Tebbit, cyn weinidog Thatcher wedi marw yn 94 oed

Margaret Thatcher a Norman Tebbit

Mae'r Arglwydd Norman Tebbit wedi marw yn 94 oed.

Roedd yn gyn weinidog Torïaidd yng nghabinet Margaret Thatcher pan oedd hi'n llywodraethu.

Yn ystod yr 1980au roedd yn gadeirydd y blaid Geidwadol ac fe wnaeth arwain yr adrannau gwaith a diwydiant.

Roedd yn Aelod Seneddol o 1970 tan 1992.

Yn 1984 cafodd ef a'i wraig, Margaret, eu hanafu yn y Grand Hotel yn Brighton yn ystod cynhadledd y blaid Geidwadol ar ôl i fom gael ei danio gan yr IRA. 

Fe gafodd yr Arglwydd Tebbit nifer o anafiadau difrifol, ac fe gafodd ei wraig ei pharlysu yn dilyn y ffrwydrad.

Yn 1981 fe wnaeth araith enwog lle y gwnaeth feirniadu terfysgoedd oedd yn digwydd yn Handsworth a Brixton ynglŷn â diweithdra.

Fe wnaeth ddiystyru'r awgrym bod y trais yn ymateb naturiol i'r cynnydd mewn diweithdra gan ddweud: "Fe ges i fy magu yn ystod y 1930au gyda thad oedd yn ddi-waith. Wnaeth e ddim bod yn rhan o unrhyw derfysg. 

"Fe aeth e ar ei feic i chwilio am waith a pharhau i chwilio tan iddo ddod o hyd i waith."

Roedd sylwadau tebyg yn golygu fod ganddo enw am fod yn "Norman cas".

Er ei fod yn cydweld â Thatcher gyda nifer o'i pholisïau, doedd y berthynas ddim wastad yn un esmwyth. 

Dywedodd bod yna adegau pan fyddai yn gadael Rhif 10 ddim yn siŵr os oedd o dal yn ei swydd neu beidio.

"Ond doeddwn i byth ei hofn hi," meddai. "Y peth gwaethaf allai hi wneud oedd rhoi'r sac i fi. 

"Doeddwn i ddim yn gweld pwynt peidio sefyll i fyny drostof fi fy hun." 

Yn 1985 cafodd ei wneud yn gadeirydd y blaid Geidwadol, ond yn ystod yr ymgyrch etholiadol yn 1987 roedd tensiynau a checru o fewn y blaid. 

Roedd Thatcher ag eraill yn credu fod gan yr Arglwydd Tebbit fwy o ddiddordeb mewn bod yn arweinydd y blaid yn hytrach na helpu'r Ceidwadwyr i ennill yr etholiad.

Er iddynt ennill yr etholiad cyffredinol hwnnw, dywedodd yr Arglwydd Tebbit yn fuan wedyn ei fod yn gadael y cabinet er mwyn gofalu am ei wraig. Bu farw ei wraig yn 2020.

Fe wnaeth barhau i fod yn weithgar yn y byd gwleidyddol, gan ddod yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi ar ôl rhoi'r gorau i fod yn AS.

Yno fe wnaeth achosi pen tost i John Major, trwy wrthwynebu'r cytundeb Maastricht, sef cytundeb wnaeth greu'r Undeb Ewropeaidd. Roedd Major wedi arwyddo'r cytundeb.

Yn y blynyddoedd diwethaf, roedd ei safbwynt ar nifer o bynciau fel mewnfudo a phobl hoyw yn rhai dadleuol. 

Dywedodd ei fab mewn datganiad fore dydd Mawrth ei fod wedi marw yn "heddychlon yn ei gartref". 

Mae'n gadael dau o feibion ac un ferch. 

Llun: PA Media 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.