Newyddion S4C

Cyn-Ysgrifennydd Cymru David Jones yn ymuno gyda Reform UK

David Jones

Mae Cyn-Ysgrifennydd Cymru David Jones wedi gadael y Blaid Geidwadol i ymuno â Reform UK.

Roedd Mr Jones yn Ysgrifennydd Cymru dan Lywodraeth Geidwadol David Cameron rhwng 2012 a 2014.

Yn ystod cyfnod Theresa May fel Prif Weinidog y DU roedd yn weinidog yn adran Brexit y llywodraeth.

Mewn datganiad i GB News dywedodd Mr Jones: “Heddiw, Reform UK yw’r blaid sy’n cynrychioli fy safbwyntiau orau – a, rwy’n credu, safbwyntiau llawer o rai eraill sydd wedi’u dadrithio gyda’r ddwy hen blaid fawr.

“Ar draws y wlad, mae pobl yn bryderus, ac yn briodol, am gostau byw cynyddol, argyfwng mewnfudo anghyfreithlon sy’n gwaethygu, ac erydiad cyson ein sofraniaeth genedlaethol.

“Nid yw’r Llywodraeth na’r Wrthblaid swyddogol yn mynd i’r afael â’r materion hyn gyda’r brys na’r penderfyniad y maent yn ei fynnu – yn wir, mae’r Llywodraeth yn ildio ein sofraniaeth yn weithredol ar gyfradd frawychus."

Cafodd Mr Jones ei eni yn Llundain i rieni o Gymru yn 1952 ac mae'n siaradwr Cymraeg.

Roedd wedi sefyll yn etholaeth Conwy yn wedi etholiadau cyntaf y Cynulliad yn 1999, ac roedd yn Aelod o'r Cynulliad dros etholaeth Gogledd Cymru yn 2002.

Rhwng 2005 a 2024 roedd yn AS yn San Steffan dros Orllewin Clwyd.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.