
Arweinwyr corawl yn 'mynnu gwell esboniad' dros ganslo Côr Cymru
Arweinwyr corawl yn 'mynnu gwell esboniad' dros ganslo Côr Cymru
Mae rhai o arweinwyr corawl amlycaf Cymru wedi dweud eu bod yn “siomedig” gyda phenderfyniad S4C i ddod â'r gyfres 'Côr Cymru' i ben, gan ofyn am well esboniad gan y sianel dros eu penderfyniad.
Ers dros 20 mlynedd, mae’r gystadleuaeth wedi bod yn cael ei chynnal bob yn ail flwyddyn ar S4C.
Mae rhai o arweinwyr corawl mwyaf adnabyddus y genedl bellach wedi beirniadu’r darlledwr am beidio â chynnig eglurhad dros ddod â’r gyfres i ben.
Wrth siarad â Newyddion S4C dywedodd yr arweinydd corawl a sylfaenydd Ysgol Glanaethwy ym Mangor, Cefin Roberts ei fod yn teimlo fel petai yn y tywyllwch wedi’r penderfyniad i ddileu'r gyfres.
“Mae o’n siom, ac yn gadael rhywun deimlo'n fflat,” meddai.
Dywedodd fod Côr Cymru wedi “rhoi hwb i gorau Cymru dros y blynyddoedd” ond fod y gystadleuaeth bellach yn “un o’r pethau ‘na sydd unwaith eto wedi diflannu oddi ar galendr corau Cymru fel rhywbeth i anelu ato fo.”
“O’n i’n siomedig bod S4C heb gyhoeddi pam yn iawn, na chwaith os oedd ‘na unrhyw beth arall yn mynd i gael ei gynnig yn ei le,” esboniodd Cefin Roberts.

Un arweinydd profiadol arall, sydd wedi profi llwyddiant yn y cyfresi, ydi Eilir Owen Griffiths, sydd hefyd wedi mynegi ei “siom” gan ddweud fod y cyhoeddiad “wedi dod o nunlle.”
“Mae'n gystadleuaeth sydd yn gofyn lot gan y corau, ond mae yn sicr 'di neud byd o wahaniaeth i ganu corawl yng Nghymru, a 'di datblygu gymaint o gorau hefyd.
“Mae o'n bach o ergyd, dwi'n meddwl, i'r diwylliant corawl."

'Cyfrifoldeb'
Mae S4C wedi ymateb drwy ddweud eu bod am “barhau i gefnogi a rhoi llwyfan amlwg ac aml i ganu corawl drwy ein holl ddarllediadau.”
Ond yn ôl Cefin Roberts, mae’r darlledwr yn rhoi “llai a llai” o sylw i gystadlaethau o’r fath.
Mae’n dweud ei fod yn pryderu fod S4C yn mynd i ddibynnu’n ormodol ar yr hyn sy'n cael ei ystyried yn fwy “poblogaidd” a “siwgraidd.”
“Os ti’n gôr newydd rŵan a ti’n meddwl, ‘Wow mae 'na sîn gorawl grêt yng Nghymru’ wel, falle ‘na dydy'r sîn mor grêt â hynny erbyn hyn, os ydy’r math yna o agwedd gyda’n unig sianel ni.
“Ac yn sgil hynny, ai chwilio am y poblogaidd mae S4C bellach? Bod chi’n gallu canu caneuon pop siwgraidd… a ‘na hwnna sy’n denu cynulleidfa.
“Os da ni’n mynd ar ôl yr agwedd yna’n ormodol yna da ni hefyd yn rhoi gormod o siwgr i’n cynulleidfaoedd.
“A dwi’n meddwl bod gan gyfarwyddwyr a chynhyrchwyr fwy o gyfrifoldeb na hynna dros eu cynulleidfa.”

'Penderfyniadau anodd'
Cwmni cynhyrchu Rondo sydd wedi bod yn gyfrifol am y gyfres Côr Cymru, ac mae'r gyfres wedi bod yn cael ei darlledu ar S4C ers 2003.
Yn ôl Gareth Williams, prif weithredwr Rondo, yr hyn sydd fwyaf siomedig gyda Côr Cymru “yw bod hi 'di bod yn perfformio mor dda.”
“Mi oedd y gystadleuaeth y llynedd yn denu niferoedd gwylio iach iawn ar S4C, ac mi oedd dau o'r penodau hynny ar frig y siartiau gwylio ar gyfer y nosweithiau hynny,” meddai.

Ond mae’n dweud ei fod yn cydnabod bod gan ddarlledwyr benderfyniadau anodd i'w gwneud o hyd.
“Mae 'na benderfyniadau anodd i'w gwneud wrth reswm i ddarlledwyr, a dwi'n siŵr bod hwn wedi bod yn benderfyniad anodd iddyn nhw.
“Mae 'na gynnwys newydd i'w gomisiynu drwy'r flwyddyn wrth reswm, ac weithiau mae 'na bethau wedyn yn gorfod diflannu o'r amserlen i 'neud lle i gynyrchiadau newydd.”
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran S4C eu bod yn “hynod o falch o bopeth” mae Côr Cymru wedi ei gyflawni.
“Fel darlledwr rydym yn gyson yn adolygu’n cynnwys er mwyn cyflwyno cynnwys newydd i’r amserlen a sicrhau amrywiaeth.
“Byddwn yn parhau i gefnogi a rhoi llwyfan amlwg ac aml i ganu corawl drwy ein holl ddarllediadau o Eisteddfod yr Urdd, yr Eisteddfod Genedlaethol, Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, Eisteddfod Ffermwyr Ifanc a'r Ŵyl Gerdd Dant yn ogystal â rhaglenni adloniant fel Noson Lawen.”