Pump yn pledio’n ddieuog i lofruddio dynes yn Nhonysguboriau
Pump yn pledio’n ddieuog i lofruddio dynes yn Nhonysguboriau
Mae pump o bobl wedi pledio’n ddieuog i lofruddio dynes a gafodd ei saethu yn farw yn Nhonysguboriau.
Fe gafodd Joanne Penney ei hanafu'n ddifrifol ym Mharc Green yn Nhalbot Green, Rhondda Cynon Taf, ar 9 Mawrth a bu farw yn y fan a'r lle.
Mae wyth o bobl wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad â'r achos ac fe ymddangosodd saith ohonyn nhw yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun.
Pennwyd dyddiad o 20 Hydref ar gyfer achos llys.
Fe gafodd y diffynyddion eu cadw yn y ddalfa cyn y gwrandawiad nesaf.
Clywodd agoriad cwest ym mis Mawrth fod Ms Penney wedi marw ar ôl cael ei saethu yn ei brest, gydag anafiadau i'w chalon a'i hysgyfaint.
Dywedodd teulu Joanne Penney wrth roi teyrnged iddi: “Rydym wedi ein syfrdanu gan golled drasig ein hannwyl Joanne.
“Roedd hi'n ferch, mam, chwaer, a nith – roedd hi’n cael ei charu gan bawb oedd yn ei hadnabod.”
Y cyhuddiadau
Y saith diffynnydd a ymddangosodd o flaen y llys oedd:
- Marcus Huntley, 20, o Laneirwg, Caerdydd, sydd wedi'i gyhuddo o lofruddiaeth a chymryd rhan yng ngweithgareddau grŵp troseddau cyfundrefnol
- Sai Raj Manne, 25, sydd heb gartref sefydlog, sydd wedi'i gyhuddo o gymryd rhan yng ngweithgareddau grŵp troseddau cyfundrefnol a chael dryll yn ei feddiant/brynu neu gaffael dryll
- Kristina Ginova, 21, o Oadby, Sir Gaerlŷr, sydd wedi'i chyhuddo o lofruddiaeth a chymryd rhan yng ngweithgareddau grŵp troseddau cyfundrefnol
- Joshua Gordon, 27, o Oadby, sydd wedi'i gyhuddo o lofruddiaeth a chymryd rhan yng ngweithgareddau grŵp troseddau cyfundrefnol
- Jordan Mills-Smith, 33, o Bentwyn, Caerdydd, sydd wedi'i gyhuddo o lofruddiaeth a chymryd rhan yng ngweithgareddau grŵp troseddau cyfundrefnol
- Tony Porter, 68, o Braunstone Town, Sir Gaerlŷr, sydd wedi'i gyhuddo o lofruddiaeth a chymryd rhan yng ngweithgareddau grŵp troseddau cyfundrefnol
- Molly Cooper, 33, o Leicester, sydd wedi’i chyhuddo o gymryd rhan yng ngweithgareddau grŵp troseddau cyfundrefnol a bod â bwledi ar gyfer arf tanio yn ei meddiant/prynu neu gaffael arfau tanio heb dystysgrif.
Nid oedd Melissa Quailey-Dashper, 39, o Gaerlŷr, yn y llys.
Mae hi wedi’i chyhuddo o lofruddiaeth a chymryd rhan yng ngweithgareddau grŵp troseddau cyfundrefnol.
Dywedodd yr Ustus Tracey Lloyd-Clarke y byddai'n trefnu dyddiad gwrandawiad newydd ar ôl iddi gynnig ei phle.