Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth ar ôl i ddyn 68 oed farw mewn gwrthdrawiad rhwng tri cherbyd ar yr M4.
Dywedodd Heddlu Gwent bod y gwrthdrawiad wedi digwydd i gyfeiriad y dwyrain rhwng Ffordd Caerllion, cyffordd 25 a chylchfan Coldra, cyffordd 24.
Digwyddodd y gwrthdrawiad tua 23:10 nos Sadwrn.
Roedd tri char yn y gwrthdrawiad, sef Mazda Bongo, Audi A5 a Suzuki Vitara.
Bu farw gyrrwr y Mazda Bongo, dyn lleol o ardal Casnewydd, yn y fan a'r lle.
Ni chafodd unrhyw un arall eu hanafu yn y gwrthdrawiad, meddai Heddlu Gwent.
Mae'r heddlu yn apelio am unrhyw un sydd â lluniau cylch cyfyng neu dashcam, unrhyw a welodd y gwrthdrawiad neu sydd â gwybodaeth i gysylltu trwy ddyfynnu'r cyfeirnod 2500214059.