Pob un o hyfforddwyr Y Llais yn dychwelyd am gyfres arall
Mae'r gwaith o chwilio am Y Llais 2026 wedi dechrau wrth i bob un o hyfforddwyr y gyfres gyntaf gadarnhau eu bod nhw’n dychwelyd.
Bydd y canwr opera byd-enwog Syr Bryn Terfel, y gantores a’r gyflwynwraig Bronwen Lewis, y canwr pop a chynhyrchydd stiwdio recordiau Yws Gwynedd, a’r gantores reggae Aleighcia Scott yn dychwelyd fel hyfforddwyr.
Meddai Bronwen Lewis: “Roedd hi’n no-brainer i fi ddweud ie i’r cynnig i gael hyfforddi eto ar Y Llais. Fe wnes i fwynhau pob eiliad o’r gyfres gyntaf a llwyr fwynhau y canu anhygoel.
“Dwi’n teimlo bod y pedwar hyfforddwr wedi gallu ymgartrefu yn ein cadeiriau coch erbyn hyn.
"Twymo lan oedd cyfres un - bring it on cyfres dau!”
Cynhyrchiad Boom Cymru, rhan o ITV Studios ydy Y Llais, fformat ITV Studios. Dyma’r fersiwn Gymraeg o’r gyfres deledu fyd-eang, The Voice.
Dywedodd Rose Datta, 19 oed, enillydd y gyfres gyntaf erioed yn Gymraeg yn 2025, ei fod yn “brofiad anhygoel”.
“Fi byth yn mynd i anghofio fe a dwi wedi bod mor ffodus i fod o gwmpas pobl mor neis a charedig, a gwneud ffrindiau mor dda trwy’r holl broses,” meddai.
“Mae hi wedi bod yn freuddwyd sydd wedi dod yn wir a fi jyst yn rili falch o fod yn rhan o rywbeth mor fawr ac anhygoel.”
Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio fydd ddydd Gwener, 18 Gorffennaf am 23.59
Mae modd ymgeisio ar gyfer lle ar ail gyfres Y Llais fan hyn.