Newyddion S4C

Cyhuddo dyn o ogledd Cymru o dwyll ar ôl bwrw ei Jaguar trydan oddi ar y ffordd

Traffordd yr M58

Mae dyn o ogledd Cymru wedi ei gyhuddo o drosedd gyrru a thwyll ar ôl i’r heddlu orfod bwrw ei gar trydan £80,000 oddi ar y ffordd.

Dywedodd Nathan Owen, 32 bod brêcs ei gar Jaguar I-PACE wedi methu a’i fod wedi colli rheolaeth arno ar y draffordd rhwng Lerpwl a Manceinion.

Roedd yn ôl adroddiadau wedi dweud ei fod wedi ei gaethiwo y tu mewn a methu dianc oherwydd nam trydanol.

Dywedodd Mr Owen ei fod ar ei ffordd adref o'r gwaith ar ddiwrnod cyntaf ei swydd fel gweithiwr cymorth plant. Roedd wedi dweud ei fod yn ofni y byddai'n marw neu'n lladd rhywun arall yn ystod y daith.

Ar ôl iddo ffonio 999, brysiodd unedau plismona ffyrdd i ryng-gipio'r cerbyd wrth iddo gyrraedd cyflymderau o hyd at 100mya ar draffyrdd yr M58/M57 a'r M62 brynhawn 6 Mawrth y llynedd.

Fe wnaeth yr Heddlu Glannau Mersi a Manceinion amgylchynu'r Jaguar am 35 munud cyn i'r cerbyd gael ei stopio o’r diwedd.

Ar ôl ymchwiliad manwl dywedodd yr heddlu bod Owen bellach wedi cael ei gyhuddo o yrru'n beryglus, achosi niwsans cyhoeddus a dau gyfrif o dwyll trwy gamliwio.

Mewn datganiad, dywedodd Heddlu Glannau Mersi: “Rydym wedi cyhuddo dyn yn dilyn digwyddiad yn ymwneud â char Jaguar I-PACE du ar yr M62 ym mis Mawrth 2024.

“Ar brynhawn dydd Mercher 6 Mawrth, galwyd swyddogion o uned plismona ffyrdd yr heddlu i helpu i atal cerbyd yn ddiogel ar y ffordd gerbydau tua’r dwyrain ar ôl i’r gyrrwr ffonio 999 gan roi gwybod bod ei gerbyd allan o reolaeth ac na allai frecio wrth deithio ar draffyrdd yr M58/M57 a’r M62.

“Yn dilyn ymchwiliad helaeth, rydym wedi cyhuddo Nathan Owen, 32, o The Grove, Prestatyn, o yrru’n beryglus, achosi niwsans cyhoeddus a dau gyhuddiad o dwyll trwy gamliwio.”

Bydd Owen yn ymddangos yn y llys ar 13 Awst.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.