Newyddion S4C

Llifogydd Texas: O leiaf 81 wedi marw a degau yn parhau ar goll

Llifogydd Texas

Mae o leiaf 81 o bobl wedi marw a 41 arall yn parhau ar goll ar ôl llifogydd sydyn yn nhalaith Texas yn yr Unol Daleithiau. 

Roedd 68 o'r bobl a fu farw, gan gynnwys 28 o blant, yn Kerr County, tra bod pum person wedi marw yn Travis County, tri yn Buret County, dau yn Williamson County a Kendall, ac un yn Tom Green County.

Mae'r niferoedd wedi bod yn codi yn gyson wrth i dimau achub barhau i chwilio am y rhai sydd ar goll. 

Mae disgwyl rhagor o stormydd dros y 24-48 awr nesaf. 

Dywedodd llywodraethwr Texas Greg Abbott ddydd Sul y byddai'r awdurdodau "yn gwneud popeth" i sicrhau fod pob person sydd ar goll yn cael eu darganfod. 

Mae sawl tîm achub wedi bod yn canolbwyntio ar ardal Camp Mystic, gwersyll ieuenctid Cristnogol i ferched ar hyd Afon Guadalupe sydd i’r gogledd orllewin o ddinas San Antonio.

Digwyddodd y drychineb ddydd Gwener pan y gwnaeth lefelau'r afon godi 26 troedfedd mewn cyfnod o 45 munud tra'r oedd y rhan fwyaf o bobl yn y gwersyll yn cysgu.

Fe wnaeth yr Arlywydd Donald Trump lofnodi datganiad trychineb mawr ddydd Sul ar gyfer Kerr County, gan gymeradwyo presenoldeb yr Asiantaeth Rheoli Argyfyngau Ffederal. 

Dywedodd hefyd y byddai'n debygol o ymweld â'r dalaith ddydd Gwener.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.