Dau ymhob tri 'yn yfed rhagor o alcohol oherwydd pwysau gwaith'
Mae dau ymhob tri o weithwyr yn yfed mwy o alcohol oherwydd pwysau gwaith, yn ôl ymchwil newydd.
Mae arolwg o 2,000 o weithwyr gan Alcohol Change UK a gyhoeddwyd ddydd Llun yn nodi dechrau Wythnos Ymwybyddiaeth Alcohol yn y DU.
Roedd ansicrwydd am ddiogelwch swydd hefyd fel rheswm dros yfed rhagor yn ystod y 12 mis diwethaf, yn ôl canlyniadau yr arolwg.
Dywedodd Jane Gardiner, pennaeth ymgynghori a hyfforddiant yn y grŵp ymchwil Alcohol Change UK bod yr ymchwil yn awgrymu bod llawer wedi bod yn yfed mwy o alcohol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mewn ymgais i reoli straen, pryder, pwysau ac ansicrwydd swydd sy'n gysylltiedig â gwaith.
“Eto i gyd gall alcohol gael effaith fawr ar ein hiechyd a'n lles, gan achosi popeth o gwsg gwael a phen mawr i bwysedd gwaed uchel, iselder a chyflyrau iechyd eraill,” meddai.
“Er y gall gynnig rhyddhad tymor byr i rai, dros amser mae'n fwy tebygol o waethygu teimladau o straen, pryder a phwysau ac arwain at gylch dieflig a all fod yn anodd torri'n rhydd ohono, hyd yn oed os ydym am wneud hynny.”
Llun gan Clara Molden / PA.