Newyddion S4C

Wimbledon yn ymddiheuro ar ôl methu galwadau llinell

 Anastasia Pavlyuchenkova

Mae trefnwyr Wimbledon wedi ymddiheuro ar ôl i'r system electronig sy'n dweud pryd mae'r bêl wedi mynd allan ar Centre Court gael ei throi i ffwrdd yn ddamweiniol a cholli tair galwad mewn un gêm. 

Dywedodd Anastasia Pavlyuchenkova fod y gêm wedi cael ei "dwyn" oddi arni gan nad oedd galwad "allan" wedi ei wneud pan wnaeth ergyd Sonay Kartal o Brydain fynd y tu hwnt i'r llinellau yn set gyntaf y bedwaredd rownd.

Fe wnaeth Pavlyuchenkova stopio ar ôl gweld fod y bêl allan, ac fe wnaeth y dyfarnwr Nico Helwerth stopio'r chwarae. 

Dywedodd yr All England Club yn wreiddiol nad oedd y system yn gweithio ar y cyfnod penodol yma. 

Dywedodd llefarydd yn ddiweddarach ddydd Sul ar ôl ymchwilio pellach nad oedd y system yn gweithio ar ochr Pavlyuchenkova am y gêm honno. 

Yn ystod yr amser yma, fe gafodd tair galwad eu methu ar ei hochr hi o'r cwrt. 

Fe wnaeth Helwerth ddatgan fod dwy o'r rhain allan ei hun cyn yr un a gafodd ei nodi gan Pavlyuchenkova.

Pe bai'r bêl wedi cael ei galw allan yn swyddogol, byddai Pavlyuchenkova wedi ennill y pwynt a chipio'r gêm. 

Ar ôl stopio'r chwarae, dywedodd Helwerth wrth y gynulleidfa: "Rydym ni am wirio os oedd y system yn gweithio yn iawn, gan nad oedd yna alwad sain."

Ar ôl sgwrs dros y ffôn, fe gyhoeddodd fod y system electronig "yn anffodus wedi methu â lleoli'r pwynt diwethaf", gan alw i'r pwynt gael ei ail-chwarae. 

Enillodd Kartal y pwynt, gan dorri serf Pavlyuchenkova a mynd ar y blaen o 5-4. 

Roedd rhwystredigaeth Pavlyuchenkova yn glir wrth iddi ddychwelyd i'w chadair ar ddiwedd y gêm benodol honno, gan ddweud: "Fe wnaethoch chi gymryd y gêm oddi wrthaf i... fe wnaethon nhw ddwyn y gêm gen i."

Fe aeth Pavlyuchenkova ymlaen i ennill y gêm, gan guro Kartal o 7-6 a 6-4.

Mae'r system electronig sy'n datgan pryd mae'r bêl allan wedi cael ei chyflwyno am y tro cyntaf yn Wimbledon eleni, ond mae nifer o chwaraewyr wedi dweud nad ydyn nhw'n ymddiried ynddi.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.