Newyddion S4C

Dynes yn euog o lofruddio aelodau o'i theulu â madarch gwenwynig

Erin Patterson

Mae dynes wedi'i ei chael yn euog yn Awstralia o ladd aelodau o'i theulu drwy fwydo madarch gwenwynig iddyn nhw yn 2023. 

Fe wnaeth rheithgor gael Erin Patterson yn euog o dri chyhuddiad o lofruddio ac un o geisio llofruddio. 

Fe wnaeth Patterson, 50, wahodd ei chyn-rieni-yng-nghyfraith, Don a Gail Patterson, 70, a chwaer Gail Patterson, Heather Wilkinson, i'r cinio ar 29 Gorffennaf 2023. 

Roedd gŵr Mrs Wilkinson, Ian Wilkinson, hefyd yn y cinio. 

Fe wnaeth y pedwar ddechrau teimlo yn sâl ar ôl bwyta pryd yng nghartref Patterson yn nhref Leongatha, sydd ddwy awr i ffwrdd o Melbourne. 

Dywedodd erlynwyr fod Patterson yn fwriadol wedi cynnwys madarch gwenwynig yn rhan o'r pryd.

Bu farw Mrs Wilkinson a Mrs Patterson ar 4 Awst 2023, a bu farw Mr Patterson ddiwrnod yn ddiweddarach.

Fe dreuliodd Mr Wilkinson saith wythnos yn yr ysbyty, ond fe wnaeth oroesi.

Clywodd y llys fod fod cyn ŵr Patterson, Simon Patterson, hefyd wedi'i wahodd i'r cinio ac fe dderbyniodd yn wreiddiol, ond fe wrthododd yn ddiweddarach. 

Roedd erlynwyr wedi gollwng tri chyhuddiad yn erbyn Patterson o geisio llofruddio ei gŵr, wedi iddyn nhw wahanu yn 2015.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.