Newyddion S4C

Marwolaethau Llangolman: Galwadau am gwest newydd

Y Byd ar Bedwar

Marwolaethau Llangolman: Galwadau am gwest newydd

Mae cwestiynau newydd yn cael eu codi am achos o 1976 ble cafodd brawd a chwaer eu darganfod yn farw yn eu cartref yn Llangolman, Sir Benfro. 

Ar y pryd daeth ymchwiliad Heddlu Dyfed Powys i'r casgliad fod Patti (neu Martha) Thomas wedi cael ei lladd gan ei brawd, Griff, a'i fod e wedi marw o ganlyniad i dân wnaeth e ei gynnau yn y tŷ. 

Mewn rhaglen arbennig o Y Byd Ar Bedwar ar S4C, mae dwy sy'n arbenigo mewn achosion hanesyddol yn dweud bod lle i amau y gallai rhywun arall fod yn gyfrifol am y marwolaethau, gan godi’r posibilrwydd fod Griff Thomas wedi cael bai ar gam am ladd ei chwaer.  

Ers degawdau mae perthnasau'r teulu, a'r rhai oedd yn eu nabod yn dda hefyd wedi mynnu na allai'r brawd fod wedi lladd y chwaer, a bod rhywun arall yn gyfrifol am y marwolaethau. 

Roedd Griff a Patti Thomas, 73 a 70 oed, yn byw yn ffermdy Ffynnon Samson, Llangolman. Roedd y ddau'n ddi-briod ac wedi byw gyda'i gilydd ar hyd ei hoes. 

Ond ar 11 Rhagfyr 1976 lansiwyd ymchwiliad llofruddiaeth wedi i gyrff y ddau gael eu canfod yn eu cartref.

Ddeufis wedyn daeth cwest i'r canlyniad fod Patti wedi ei lladd yn anghyfreithlon wedi iddi ddioddef ymosodiad dan law ei brawd. 

Cafwyd rheithfarn agored o ran achos marwolaeth Griff Thomas, ond roedd yr Heddlu'n credu ei fod e wedi marw ar ôl rhoi ei hun ar dân.

Image
Yr Athro Niamh Nic Daeid
Yr Athro Niamh Nic Daeid

Ar raglen Y Byd Ar Bedwar mae'r Athro Niamh Nic Daeid, Pennaeth Adran Fforensig Prifysgol Dundee, ac un o dystion arbenigol yr Ymchwiliad i Dân Tŵr Grenfell, yn dweud nad yw hi erioed wedi dod ar draws achos tebyg o'r blaen.

"Nid oedd unrhyw hylifau fflamadwy fel petrol na pharaffin wedi’u defnyddio.” meddai

“Felly, y rheswm mwyaf tebygol dros y tân oedd rhywun yn cynnau’r deunyddiau fflamadwy oedd yn bresennol. 

"Yna, mae’n rhaid defnyddio profiad i ddehongli os yw'r math yna o dân yn rhywbeth fyddai'n hunan-achosedig (self-inflicted)."

Wedi darllen adroddiad Heddlu Dyfed Powys o 1976 ar yr ymchwiliad i farwolaethau'r Thomasiaid, ym marn yr Athro Nic Daeid, mae 'na gwestiynau pwysig yn codi.

“Yn fy mhrofiad i, os yw pobl yn dewis defnyddio tân fel dull o gymryd eu bywydau, fel arfer maen nhw’n defnyddio hylif fflamadwy - petrol neu ryw fath arall, felly mae hyn yn anarferol," meddai.

"Dydw i ddim wedi dod ar draws achos o'r blaen ble roedd ymgais i gynnau deunyddiau fel papur a phren mewn tomen o gwmpas chi’ch hun. 

"Mae hyn yn sicr yn codi cwestiwn os gynnodd Griff y tân ei hun, neu os oedd hyn yn weithred gan berson arall.”

Image
Stephanie Davies
Stephanie Davies

Mae Stephanie Davies, cyn-uwch swyddog crwner sydd bellach yn ymchwilydd annibynnol yn arbenigo mewn dehongli lleoliadau marwolaethau, hefyd wedi edrych ar yr achos.

Er ei bod hi’n dweud fod ymchwiliad yr Heddlu ar y pryd wedi bod yn drwyadl, mae’n teimlo bod ’na gwestiynau pwysig sydd dal heb eu hateb.

“Rwy'n credu eu bod nhw wedi methu wrth gyrraedd diwedd eu hymchwiliad," meddai. 

"Mae yna arwyddion cryf bod yna drydydd person yn ymwneud â’r achos."

"Mae angen cynnal cwest newydd. Pan mae rhywun yn marw, dydyn nhw ddim yn gallu amddiffyn eu hunain, ond maen nhw dal yn gallu cael ei labelu’n llofrudd ar falans tebygolrwydd.

“Dw i ddim yn credu bod hynny’n iawn. Dwi’n credu ei bod hi’n bosib bod 'na gamweinyddu cyfiawnder fan hyn ac mae’n iawn i gael cwest o leiaf, er mwyn archwilio’r ffactorau hynny.”

Image
Huw Absalom
Huw Absalom

Mae'r rhaglen hefyd yn clywed wrth berthnasau Griff a Patti Thomas, sydd wedi bod yn brwydro ers degawdau i geisio clirio enw'r brawd.

Roedd tad Huw Absalom yn gefnder i'r Thomasiaid, ac mae'n dweud fod y teulu wastad wedi mynnu na allai Griff Thomas fod yn gyfrifol am farwolaeth ei chwaer. 

"Roedd fy nhad, o'r dechrau, yn dweud fod y stori ddim yn reit,” meddai Huw. 

“Dim ond nhw'ch dau o'dd. Dim byth fyse un wedi gwneud niwed i’r llall, dim byth."

"O'n i'n bymtheg ar y pryd a dwi'n 63 nawr, pwy sy'n mynd i ymladd ar ôl fy nydd i? Tasen ni’n gallu cael cyfiawnder i Griff. Dwi’n teimlo o’r galon am injustice y peth i gyd.”

Yn Hydref 2022 cyhoeddodd Heddlu Dyfed Powys eu bod nhw'n cynnal adolygiad fforensig o ddeunydd oedd wedi ei gadw o'r ymchwiliad gwreiddiol yn 1976. 

Dros ddwy flynedd a hanner wedi sefydlu'r adolygiad, mae'r teulu’n dweud eu bod nhw'n dal i aros i glywed am unrhyw ddatblygiad.

"Rwy'n teimlo'n gryf iawn am y peth," meddai Huw. "Faint o amser sy' eisiau?"

Gofynnwyd i Heddlu Dyfed Powys am gyfweliad ar gyfer y rhaglen. Dyma oedd eu hymateb: 

"Mae'r adolygiad yn parhau ac nid ydym mewn sefyllfa i roi cyngor ar amserlenni. Ni fyddwn yn cymryd rhan mewn cyfweliad ar hyn o bryd."

Y Byd Ar Bedwar: Dirgelwch Llangolman, nos Lun 7 Gorffennaf am 20:00 ar S4C, Clic a BBC iPlayer

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.