Sgandal Horizon: Gall y broses iawndal 'gymryd tair blynedd arall'
Gallai’r broses iawndal i is-bostfeistri a gafodd eu cyhuddo ar gam gan sgandal Swyddfa'r Post Horizon barhau am dair blynedd arall, yn ôl cyfreithwyr.
Mae llawer o ddioddefwyr y sgandal yn dal i aros am iawndal llawn, gydag un o'r adroddiadau terfynol o'r ymchwiliad - sy'n edrych ar yr effaith ar fywydau y rhai a ddioddefodd ac iawndal - i'w gyhoeddi ddydd Mawrth.
Cafodd mwy na 900 o is-bostfeistri eu herlyn ar gam gan Swyddfa'r Post rhwng 1999 a 2015 oherwydd gwybodaeth ddiffygiol ar system gyfrifiadurol cwmni Horizon.
Dywedodd y llywodraeth Geidwadol flaenorol fod y rhai y cafodd eu heuogfarnau eu diddymu yn gymwys i gael taliadau o £600,000.
Mae iawndal wedi bod yn fater allweddol i is-bostfeistri ers i'r sgandal ddod i'r amlwg, gyda llawer yn cael trafferth llywio'r gwahanol gynlluniau iawndal.
Ym mis Mehefin fe wnaeth Syr Alan Bates (uchod) gyhuddo’r llywodraeth o gyflwyno cynnig o iawndal gwerth llai na hanner yr hyn y mae wedi ei hawlio.
Dywedodd y cyn is-bostfeistr o Landudno, sydd wedi ymgyrchu dros gyfiawnder i ddioddefwyr sgandal Swyddfa’r Post, fod gweinidogion yn llywyddu dros “lysoedd answyddogol” ac yn newid y “telerau” ar eu dyfarniadau.
Dywedodd Syr Alan: "Mae hawliadau yn cael, ac wedi cael eu dymchwel ar y sail gyfreithiol na fyddech yn gallu eu gwneud, neu nad yw fframwaith y cynllun yn ymestyn i rai eitemau."
Fe fydd cadeirydd ymchwiliad Horizon, Syr Wyn Williams, yn cyhoeddi ei ganfyddiadau ar iawndal ddydd Mawrth.
Biwrocratiaeth
Dywedodd cwmni cyfreithwyr Hudgell, un o'r rhai sy'n ymwneud â sicrhau iawndal i ddioddefwyr, fod ganddyn nhw fwy na 700 o achosion iawndal i'w datrys o hyd.
Dywedodd y cyfreithiwr Neil Hudgell fod ei gwmni wedi cytuno ar iawndal i fwy na 300 o bobl, cyfanswm o £170 miliwn, ond dywedodd fod gan y broses iawndal "ormod o fiwrocratiaeth i'w datrys".
Dywedodd: "Rydym wedi gweld anghysondebau rhwng y gwahanol gynlluniau iawndal, sy'n parhau i fod wedi'u gor-beiriannu ac yn rhy gyfreithiol, gyda gormod o fiwrocratiaeth i'w datrys.
“Mae methiant dro ar ôl tro hefyd i roi mantol yr amheuaeth i is-bostfeistri mewn amgylchiadau priodol.
“Mae wedi’i gwneud yn broses rhy hir i gynifer o bobl sydd wedi mynd trwy gymaint, ac sydd bellach yng nghyfnodau olaf eu bywydau.
“Mae wedi bod yn ail-drawmatig i lawer, ac yn anffodus mae niferoedd cynyddol yn marw heb weld iawndal.
Dywedodd Mr Hudgell fod un cleient a gafodd gynnig o £50,000 i ddechrau wedi gweld ei gynnig yn codi i £500,000.
Ychwanegodd: “Nid camgymeriad untro yw hwn, ond darlun llym o broblem gyffredin iawn.
"Mae wedi bod yn broses boenus i bawb, a daeth i ben gyda phroses apelio newydd yn cael ei chadarnhau yn gynharach eleni, i gydnabod bod llawer o bobl wedi cael eu tan-digolledu.”