Newyddion S4C

Dafydd Meredydd yw pennaeth newydd BBC Radio Cymru

09/08/2021
Dafydd Meredydd

Mae BBC Cymru wedi penodi Dafydd Meredydd fel Uwch Bennaeth Cynhyrchu Cynnwys Gwasanaethau Cymraeg y gorfforaeth.

Bydd yn Olygydd BBC Radio Cymru, BBC Radio Cymru 2 yn ogystal â goruchwylio’r gwasanaeth arlein BBC Cymru Fyw. 

Dechreuodd ei yrfa gyda BBC Radio Cymru yn 1992 fel ymchwilydd.

Fe aeth ymlaen i gyflwyno ystod o raglenni’r sianel, dan yr enw Daf Du.

Mae hefyd wedi gweithio fel cynhyrchydd, uwch gynhyrchydd, ac wedi bod yn Olygydd Dros Dro ar Radio Cymru ers mis Ebrill. 

Dywedodd Rhuannedd Richards, Cyfarwyddwr, Cynnwys a Gwasanaethau BBC Cymru: “Mae ganddo weledigaeth gyffrous a chreadigol ar gyfer ein gwasanaethau radio ac arlein Cymraeg.”

Bydd yn dechrau ei swydd newydd ym mis Medi.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.