Gorymdaith Lerpwl: Dyn wedi ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio
Gorymdaith Lerpwl: Dyn wedi ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio
Mae gyrrwr y car sy'n cael ei amau o daro pobl yn Lerpwl brynhawn Llun wedi ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio, gyrru’n beryglus a gyrru dan ddylanwad cyffuriau.
Mae 11 o bobl yn parhau yn yr ysbyty ac mae pob un mewn cyflwr sefydlog ac yn ymddangos fel eu bod yn gwella'n dda, meddai Heddlu Glannau Mersi.
Mewn cynhadledd i’r wasg dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol y llu, Jenny Sims, bod y car wedi dilyn ambiwlans ar ôl i rwystr ffordd gael ei godi dros dro.
Roedd hynny er mwyn i barafeddygon allu helpu dyn a oedd yn dioddef trawiad ar y galon, meddai'r llu.
Cafodd y dyn ei arestio yn dilyn y digwyddiad ar Stryd y Dŵr ger canol y ddinas brynhawn Llun.
Dywedodd Heddlu Glannau Mersi ei fod yn 53 oed, yn wyn, yn Brydeinig ac o ardal Gorllewin Derby. Maen nhw'n credu mai fo oedd gyrrwr y cerbyd.
Dyw'r digwyddiad ddim yn cael ei drin fel un terfysgol.
Fe gafodd nifer o bobl eu hanafu, gan gynnwys pedwar o blant.
Mae dau berson, gan gynnwys un o'r plant, wedi cael anafiadau difrifol.
Roedd miloedd wedi ymgynnull ar strydoedd Lerpwl er mwyn cymryd rhan yn yr orymdaith brynhawn Llun.