Newyddion S4C

Biwmares: Dynes wedi ei hanafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiad

28/05/2025
Biwmares

Mae dynes wedi’i hanafu’n ddifrifol mewn gwrthdrawiad ym Miwmares fore dydd Mercher.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod wedi derbyn gwybodaeth am 11:34 am wrthdrawiad ar Stryd y Castell rhwng car a cherddwr.

Aeth y gwasanaethau brys i'r digwyddiad, ac fe gafodd y ddynes ei chludo i Ysbyty Gwynedd mewn ambiwlans.

Mae swyddogion yn apelio am dystion ac unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda nhw.

Dywedodd y Rhingyll Duncan Logan o’r Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol: “Hoffem ddiolch i bawb sydd eisoes wedi siarad â swyddogion yn y lleoliad. 

"Gwyddom fod Biwmares wedi bod yn brysur heddiw oherwydd gwyliau hanner tymor, felly rydym yn annog unrhyw un a allai fod wedi gweld y digwyddiad, neu unrhyw un a allai fod wedi bod yn teithio ar hyd Stryd y Castell ac sydd wedi cofnodi unrhyw beth trwy eu lluniau camera dashfwrdd i gysylltu â ni ar unwaith.

“Mae’r ffordd yn parhau ar gau er mwyn galluogi ein timau i wneud eu hymholiadau cychwynnol, a hoffwn ddiolch i’r gymuned leol a modurwyr am eu hamynedd.”

Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth i gysylltu gyda nhw drwy wefan Heddlu'r Gogledd neu drwy ffonio 101, gan ddefnyddio'r cyfeirnod C077209.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.