Newyddion S4C

Miloedd o alarwyr yn angladd Mike Peters yn Sir Ddinbych

Miloedd o alarwyr yn angladd Mike Peters yn Sir Ddinbych

Mae miloedd o bobl wedi ymgynnull yn angladd Mike Peters yn Nyserth, Sir Ddinbych ddydd Iau.

Bu farw prif leisydd The Alarm yn 66 oed fis Ebrill o ganser y gwaed.

Roedd wedi bod yn dioddef o ganser ar gyfnodau am dros 30 o flynyddoedd.

Fe gariodd meibion Mike Peters, Dylan ac Evan flwch lludw eu tad i Eglwys y Plwyf Sant Brigid a Sant Cwyfan ar gyfer y gwasanaeth.

Roedd nifer o wynebau cyfarwydd o fyd cerddoriaeth yn y gwasanaeth, gyda Dafydd Iwan a Rhys Meirion yn cymryd rhan.

Fe wnaeth Rhys Meirion ganu 'Anfonaf Angel' fel rhan o'r gwasanaeth.

Cafodd y gwasanaeth ei ddarlledu ar sgrîn faw tu allan i'r eglwys i alarwyr sydd tu allan gael gwylio hefyd.

Image
Teulu Mike Peters

'Gwaddol'

Yn enedigol o Brestatyn, ac wedi ei fagu yn Y Rhyl, daeth Mike Peters i amlygrwydd am y tro cyntaf yn y 1980au cynnar gyda The Alarm, a'u hanthemau poblogaidd yn cynnwys '68 Guns' a 'Strength'.

Mewn datganiad cyn yr angladd, dywedodd ei wraig Jules Peters bod Mike wedi adeiladu "gwaddol" yn ystod ei yrfa.

"Fe wnaeth Mike fyw fel yr oedd yn canu - gydag angerdd, dewrder a'r gred nad oedd modd ei ysgwyd bod gan bobl y pŵer i wneud gwahaniaeth," meddai.

"Er bod ei las nawr yn llonydd, bydd ei gerddoriaeth byth yn pylu.

"Bydd ei gerddoriaeth yn ein cadw yn gryf, ac mae'r gymuned a adeiladodd i bob un ohonom yn ein cynnal.

"Mae heddiw yn ddiwrnod trist, ond hefyd mae'n ddathliad o'i fywyd a'r gwaddol yr adeiladodd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.