Gorymdaith Lerpwl: Cyhuddo dyn lleol o saith o droseddau
Mae dyn oedd yn gyrru car anafodd 79 o bobl mewn gorymdaith i ddathlu llwyddiant clwb pêl droed Lerpwl wedi ei gyhuddo o saith o droseddau.
Cafodd Paul Doyle, 53 oed o West Derby, ei gyhuddo ddydd Iau o yrru’n beryglus, achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol, anafu gyda’r bwriad o achosi niwed corfforol difrifol ac o geisio achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol.
Fe fydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Lerpwl ddydd Gwener.
Mae nifer o bobl yn parhau yn yr ysbyty mewn cyflwr sefydlog wedi'r digwyddiad ar Stryd y Dŵr ar ddydd Llun Mai 26.
Mewn datganiad a gyhoeddwyd ddydd Iau, dywedodd prif erlynydd Gwasanaeth Erlyn y Goron dros ardal Glannau Mersi-Sir Gaer, Sarah Hammond: “Megis dechrau mae’r ymchwiliad.
“Mae erlynwyr a’r heddlu yn parhau i weithio’n gyflym i adolygu swm enfawr o dystiolaeth.
“Mae hyn yn cynnwys darnau lluosog o luniau fideo a datganiadau niferus gan dystion.
"Mae’n bwysig sicrhau bod pob dioddefwr yn cael y cyfiawnder y mae’n ei haeddu.”
'Ymchwiliad cymhleth'
Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Glannau Mersi, Jenny Sims mewn cynhadledd i'r wasg: “Nawr bod Paul Doyle wedi’i gyhuddo, gofynnwn i’r broses farnwrol gael ei chaniatáu i barhau heb unrhyw ddyfalu ar-lein nac yn unrhyw le arall a allai rwystro ceisio cyfiawnder i bawb yr effeithir arnynt.
“Cafodd cyfanswm o 79 o bobl eu hanafu. Rydym yn parhau i fod mewn cysylltiad â’n swyddogion a’n staff, ac mae saith o bobl yn parhau yn yr ysbyty yn derbyn gofal arbenigol ein cydweithwyr yn y gwasanaeth iechyd."
Ychwanegodd: “Rwy’n gobeithio y bydd pob un o’r rhai a anafwyd, pob un a welodd y digwyddiad ofnadwy hwn, yn gallu cael amser i wella.
“Mae hwn yn parhau i fod yn ymchwiliad mawr a chymhleth, ac mae ditectifs yn adolygu llawer iawn o luniau teledu cylch cyfyng a ffonau symudol a gyflwynwyd gan y cyhoedd a busnesau, yn ogystal â lluniau o’n camerâu a wisgir gan ein swyddogion a chamera dash.”
Fe wnaeth hyd at 1.5 miliwn o bobl ymgynnull ar strydoedd y ddinas i ddathlu coroni tîm pêl-droed Lerpwl yn bencampwyr Uwch Gynghrair Lloegr.
Yn gynharach ddydd Iau fe wnaeth Heddlu Glannau Mersi gadarnhau mai plentyn naw oed oedd y ieuengaf i gael ei anafu ddydd Llun.
Roedd y dioddefwr hynaf yn 78 oed ac mae pob un o'r 79 person gafodd eu hanafu yn Brydeinwyr, meddai’r llu.
Llun: Facebook