Newyddion S4C

Russell Brand yn pledio’n ddi-euog i droseddau rhyw honedig

Russell Brand

Mae’r actor a’r digrifwr Russell Brand wedi pledio’n ddi-euog mewn llys yn Llundain i droseddau rhyw honedig, gan gynnwys treisio.

Fe ymddangosodd Mr Brand, 49 oed, yn Llys y Goron Southwark fore dydd Gwener.

Fe ymddangosodd yn y doc gyda dau swyddog naill ochr iddo, gan sefyll yn llonydd ac edrych yn syth ymlaen wrth iddo gyflwyno ei ble.

Mae hefyd yn wynebu dau gyhuddiad o ymosodiad rhywiol, yn ymwneud â phedair menyw.

Daw’r cyhuddiadau ar ôl i’r heddlu ddechrau ymchwilio ar ôl adroddiadau am dreisio, ymosodiadau rhywiol a cham-drin emosiynol honedig gan nifer o fenywod.

Roedd yr honiadau yn rhan o ymchwiliad ar y cyd gan The Sunday Times, The Times a Channel 4 Dispatches ym mis Medi 2023.

Mewn fideo ar ei gyfrif X, dywedodd Brand ei fod yn croesawu'r cyfle i brofi ei fod yn ddieuog. 

Mae’r cyhuddiadau yn ymwneud â digwyddiadau honedig rhwng 1999 a 2005.

Mae Brand wedi’i gyhuddo o dreisio dynes yn 1999 yn ardal Bournemouth ac o dreisio geneuol ac ymosodiad rhywiol ar ddynes yn 2004 yn ardal Westminster yn Llundain.

Mae hefyd wedi’i gyhuddo o ymosod yn anweddus ar ddynes yn 2001 ac ymosod yn rhywiol ar ddynes arall rhwng 2004 a 2005.

Honnir bod y ddwy drosedd wedi digwydd yn Westminster, Llundain.

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.