Llong galiwn unigryw y Galeón Andalucía yn cyrraedd Caernarfon
Llong galiwn unigryw y Galeón Andalucía yn cyrraedd Caernarfon
Mae llong arbennig wedi ei hangori yng Nghaernarfon ddydd Sadwrn, ac mae cyfle i bobl fynd ar ei bwrdd yn ystod ei hymweliad.
Mae'r Galeón Andalucía wedi ei modelu ar un o'r llongau galiwn Sbaenaidd a ddefnyddiwyd ar gyfer teithiau rhwng yr 16eg a'r 18fed ganrif.
Mae'n amgueddfa sydd yn arnofio, gan ganiatáu i ymwelwyr archwilio deciau'r llong er mwyn dysgu am hanes llynges Sbaen.
Mae'r Galeón Andalucía yn eiddo i Sefydliad Nao Victoria ac mae wedi teithio'n helaeth ar draws y byd, gan ymweld â phorthladdoedd ar bedwar cyfandir.
Fe ddaeth y Galeón Andalucía i Gaernarfon ar ôl hwylio o harbwr Corc yn Iwerddon dros y diwrnod diwethaf.
Fe fydd wedi ei hangori ar bier Landerne ger Doc Victoria yng Nghaernarfon am wythnos.