Keir Starmer yn wynebu ‘Dydd y Farn’ yn sgandal Peter Mandelson

Keir Starmer yn wynebu ‘Dydd y Farn’ yn sgandal Peter Mandelson

Bydd Keir Starmer yn wynebu “Dydd y Farn” yn sgandal Peter Mandelson yr wythnos nesaf, wrth i was sifil sydd wedi gadael ei swydd baratoi i roi tystiolaeth i un o bwyllgorau’r Tŷ Cyffredin.

Gadawodd Syr Olly Robbins ei swydd yr wythnos hon fel uwch was sifil yn y Swyddfa Dramor, ar ôl y datgeliadau diweddaraf am y sgandal.

Dywedodd ffynonellau blaenllaw yn y Llywodraeth wrth bapur newydd y Guardian y byddai ei dystiolaeth o flaen y pwyllgor yn penderfynu ffawd Syr Keir Starmer.

Mae arweinwyr y prif bleidiau gwrthblaid i gyd wedi galw ar Syr Keir i ymddiswyddo oherwydd y datgeliadau diweddaraf.

Daeth i’r amlwg nos Iau nad oedd y Prif Weinidog wedi cael gwybod bod yr Arglwydd Mandelson wedi cael ei wrthod i ddechrau yn y gwiriadau diogelwch ar gyfer rôl Llysgennad y DU i’r Unol Daleithiau.

Fe gafodd Mandelson ei ddiswyddo o'i rôl yn Washington fis Medi diwethaf pan ddaeth mwy o fanylion i'r amlwg am ei berthynas â'r pedoffeil Jeffrey Epstein, a fu farw yn 2019.

'Gandryll'

Dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn “gwbl gandryll”, a’i fod yn “syfrdanol” na chafodd wybod bod Mandelson wedi methu â’r gwiriadau diogelwch nes dydd Mawrth yr wythnos hon.

Daeth i’r amlwg nos Iau fod Syr Keir Starmer a’r Ysgrifennydd Tramor, Yvette Cooper, wedi colli hyder yn ysgrifennydd parhaol y Swyddfa Dramor, Syr Olly Robbins, ac y byddai ef yn gadael ei swydd.

Roedd adroddiad yn y Guardian wedi awgrymu fod swyddogion diogelwch wedi gwrthod rhoi cliriad i’r Arglwydd Mandelson i ddechrau, ond bod y Swyddfa Dramor wedi anwybyddu’r argymhelliad.

Ond mae cyfeillion i Syr Olly Robbins wedi awgrymu na wnaeth unrhyw beth o’i le, a’i fod yn paratoi i roi tystiolaeth i’r Pwyllgor Materion Tramor mor gynnar â dydd Mawrth.

Mae’r gwrthbleidiau hefyd wedi codi amheuon ynglŷn â’r hyn y mae’r llywodraeth wedi ei ddweud.

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr, Kemi Badenoch, ei bod yn “hurt” honni nad oedd Syr Keir yn gwybod fod yr Arglwydd Mandelson wedi cael ei wrthod yn y broses glirio.

Mae’r Ceidwadwyr, y Democratiaid Rhyddfrydol, Reform UK, Plaid Cymru a’r Blaid Werdd wedi galw ar Keir Starmer i ymddiswyddo.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.