Môn: Cynllunwyr yn galw am newid defnydd 14 o dai haf yn gartrefi i bobl leol

Brynteg ger Benllech

Mae datblygwyr wedi galw am ystyried newid 14 o dai haf ar Ynys Môn yn gartrefi i bobl leol.

Daw'r galwad gan gynllunwyr sy'n dweud fod amodau sy'n golygu bod rhaid eu defnyddio fel ail dai neu gartrefi gwyliau - ac nid fel prif gartrefi - yn "cyfyngu" ar y gallu i'w gwerthu.

Mae cais cynllunio yn dweud bod 14 o 16 tai ym Mrynteg ger Benllech wedi bod yn wag ers blynyddoedd ar ôl newidiadau i'r dreth ar ail dai ar yr ynys.

Mae'r tai wedi bod ar werth ers 2023, gyda dim ond dau wedi'u prynu.

Nododd y cais cynllunio hefyd bod 20 o dai a gafodd eu hadeiladu gerllaw wedi gwerthu'n gyflym cyn y newidiadau i'r dreth.

Mae'r tai wedi'u lleoli ger ffordd y B5108, wrth ymyl clwb golff ac mewn pentref sy'n boblogaidd gyda thwristiaid.

Cafodd cais cynllunio ei gyflwyno i Gyngor Môn i newid defnydd y 14 o dai fel bod modd eu gwerthu ar y farchnad fel tai cyffredin.

Image
Lleoliad y cartrefi ym Mrynteg.
Lleoliad y tai ym Mrynteg.

Mae'r cais, sydd wedi'i gyflwyno gan Colette Cartwright trwy gynllunwyr P. Land Development Consultants Ltd, yn disgrifio'r tai fel rhai "amhosib eu gwerthu" o ganlyniad i "drethi uwch".

Ar hyn o bryd mae Cyngor Môn yn gosod premiwm treth o 100% ar ail dai neu gartrefi gwyliau.

Mae'r cais cynllunio yn dweud bod y tai i gyd yn cynnwys tair ystafell wely, ystafell ymolchi, cegin, ystafell amlbwrpas ac ystafell fyw.

“Mae gwrthod ystyried yr eiddo fel tai ar gyfer y farchnad gyffredinol... yn groes i bolisi cynllunio cenedlaethol, ac ymhellach yn gwrth-ddweud bwriad y system drethu," meddai'r dogfennau cynllunio.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.