Dotio ar drenau: Bachgen o Wynedd am agor siop rheilffyrdd bach
Mae bachgen 13 oed o Borthmadog sy’n caru trenau a modelau rheilffyrdd yn galw am help i agor siop 'rheilffyrdd bach’ yn yr ardal.
Mae Cynan yn ddisgybl yn Ysgol Eifionydd ym Mhorthmadog ac mae o wedi cael ‘llond bol’ o orfod teithio milltiroedd i brynu offer neu ddibynnu ar siopa ar-lein.
"Mae yna reilffyrdd yn yr ardal ond does na ddim siop i’r rheilffyrdd," meddai.
"Dwishio trio cael y cefnogaeth i agor siop modelau sy’n gwerthu bob un maint achos 'sgeno ni ddim un o rheiny yn yr ardal yma yn anffodus."
Er mwyn codi ymwybyddiaeth, ers ddechrau’r flwyddyn mae Cynan wedi bod yn brysur yn trefnu ei Sioe Fodelau gyntaf.
Cafodd y digwyddiad ei gynnal yn Eglwys y Drindod Sanctaidd, Penrhyndeudraeth, gan ddenu degau o gefnogwyr ac arddangoswyr o Gymru a thu hwnt.
Trefnodd Cynan y cwbl ei hun drwy gysylltu â phobol dros y cyfryngau cymdeithasol.
"Odd gyno fi chwech rheilffordd yn dod i gychwyn a wedyn nesh i weld rheilffyrdd erill o’n i meddwl oedd yn cŵl a nesh i ofyn os o’dda nhw’n medru dod, ac o’n i'n llenwi forms iddyn nhw a petha fel ‘na," meddai.
Image
Mae Cynan yn 13 oed.
Gobaith Cynan ydi annog rhywun i agor siop arbenigol yn lleol "neith o roi pres i mewn i’r ardal a pres i’r industry hefyd."
"Ella fydd rhywun yn meddwl am y syniad 'ma o agor siop fel syniad da’, meddai gan ychwanegu: os oes gan rhywun ddiddordeb ‘pwyntiwch nhw ata i!"
Bu Cynan hefyd yn casglu arian trwy werthu paneidiau a raffl er mwyn cefnogi cronfa adfer eglwys y plwyf.
"Dwi’n meddwl ei fod o wedi neud yn ofnadwy o dda," meddai Wendy Jones o'r Bermo un o’r ymwelwyr: "Chwarae teg i hogyn bach 13 oed wedi trefnu hyn i gyd ei hun."
Roedd yr arddangosfeydd yn cynnwys modelau bach o Croesor South, Gwyndy Bank, Nantmor Bach, MOD Sutton Craddock, Golygfa Fws, Llanfaethlu, Hubibubi/Hansen Pfeffer Katzenellenbogen an der See, a chynllun Triang-Hornby o 1967.
Image
Gobaith Cynan ydy i annog rhywun i agor siop arbenigol yn lleol
Fe ddywedodd Ellis Griffiths o Fethel ger Caernarfon, un o’r arddangoswyr, fod gwaith trefnu Cynan yn "impressive iawn."
"Does 'na ddim lot o bobol ifanc i mewn i hyn. Dwi heb ddod ar draws neb sydd actually wedi trefnu wbath fel yma. Mae o wedi neud yn dda iawn," meddai.
'Trainspotter' ifanc
Mae Cynan hefyd yn rhedeg ei sianel YouTube ei hun, UK Rail Channel,lle mae'n rhannu ei ddiddordeb mewn rheilffyrdd gan gynnwys fideos o drenau yn cyrraedd gorsafoedd ar hyd y Deyrnas Unedig. Mae gan y sianel tua 1.22K o danysgrifwyr.
Yn ôl ei fam, Fiona Hughes mae ei ddiddordeb mewn trenau yn amlwg ers yn ifanc.
"Tomos y Tanc oedd bob dim pryd oedd o’n fach, ac fel mae o wedi mynd yn hyyn mae’r diddordeb wedi tyfu," meddai.
Mae hi a’i gŵr yn teithio pellteroedd mawr i fynd â Cynan i weld trenau o bob math, ac yn ei helpu i greu y modelau. Mae hi’n egluro fod Cynan yn gobeithio y bydd rhywun y gwrando ar ei alwad ac yn penderfunu agor siop yn yr ardal.
"Pryd da ni'n chwilio am bethau ar gyfer y modelau 'da ni'n gorfod mynd ar-lein neu trafeilio yn bell i ffeindio petha. Os fasa 'na siop ar y stepan drws fasa yn helpu," meddai.
"Sa fo wrth ei fodd, ‘sa fo yna o hyd ma'n siwr, ‘sa fo isio helpu hefyd dim jyst gwario!"