Carcharu dyn am 15 mlynedd am droseddau rhyw yn erbyn plentyn

Phillip Harris

Mae dyn o Ferthyr Tudful wedi cael ei garcharu am 15 mlynedd am droseddau rhyw yn erbyn plentyn dros gyfnod o flynyddoedd.

Fe wnaeth Phillip Harris, 58 oed, gyflawni y troseddau rhwng 1989 a 1991, a hynny pan oedd y dioddefwr – sydd bellach yn ei ddiweddar 40au – yn blentyn.

Rhoddodd y dioddefwr wybod i Heddlu De Cymru am y troseddau flynyddoedd yn ddiweddarach yn 2023, ar ôl dweud wrth ei bartner.

Cafodd Harris ei arestio ac, wrth iddo fod yng ngofal yr heddlu, fe wnaeth swyddogion chwilio ei dŷ. Fe wnaethon nhw ddarganfod nifer o ddelweddau anweddus, gan gynnwys delweddau Categori A.

Fe gafodd Phillip Harris ei gyhuddo o chwe chyfrif o ymosod yn anweddus ar fachgen o dan 16 oed, pum cyfrif o anwedduster difrifol yn erbyn bachgen o dan 14 oed, cyflawni sodomiaeth (buggery) ar fachgen o dan 16 oed, tri chyfrif o greu delweddau anweddus o blentyn, a bod â delwedd bornograffig eithafol o blentyn yn ei feddiant. 

Plediodd yn euog i’r cyhuddiadau hynny.

Plediodd yn ddieuog i gyhuddiadau o ymosod yn anweddus ar fachgen o dan 16 oed ac anwedduster difrifol yn erbyn bachgen o dan 14 oed, ond fe'i cafwyd yn euog ar ôl achos llys ym mis Mawrth 2026.

Yn ei ddatganiad am effaith y troseddau, dywedodd y dioddefwr wrth y llys ei fod yn teimlo ei fod “wedi’i gaethiwo gan yr atgofion ac wedi’i gaethiwo gan ymdeimlad cyson, dirdynnol o golled”. 

Dywedodd wrth y llys fod Harris wedi cymryd rhywbeth oddi wrtho na all byth ei adennill – ei blentyndod.

Ar 17 Ebrill 2026, ymddangosodd Phillip Harris yn Llys y Goron Casnewydd lle cafodd ei garcharu am 15 mlynedd. Cafodd hefyd Orchymyn Atal Niwed Rhywiol, a bydd yn rhaid iddo gofrestru fel troseddwr rhyw.

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Leah Williams, a oedd yn arwain yr ymchwiliad: “Hoffwn ganmol dewrder y dioddefwr yn yr achos hwn. Fe gafodd ei orfodi i fynd drwy broses llys anodd oherwydd dyn a wnaeth fanteisio arno pan oedd yn blentyn.

“Er bod trawma’r hyn ddigwyddodd flynyddoedd yn ôl wedi aros gydag ef, rwy’n gobeithio y bydd y cyfiawnder y mae bellach wedi’i gael yn caniatáu iddo gymryd camau pwysig ymlaen yn ei fywyd.

“Mae’r achos hwn yn dangos nad yw hi byth yn rhy hwyr i roi gwybod am drosedd o’r fath. Rydym yn cymryd pob adroddiad o ddifrif ac yn eu hymchwilio’n drylwyr, gyda’r nod o sicrhau cyfiawnder i ddioddefwyr.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.