'Wedi bod drwy'r felin': Chwilio am esgob newydd i Fangor unwaith eto
Mae’r Eglwys yng Nghymru yn chwilio unwaith eto am esgob newydd i Fangor, gan ddweud bod yr esgobaeth wedi “bod drwy’r felin” dros y flwyddyn ddiwethaf.
Ym mis Chwefror dywedodd Archesgob Cymru, Cherry Vann, na fyddai hi’n yn "bwrw ymlaen" â'r broses o benodi esgob dros dro ar gyfer yr esgobaeth.
Daeth hynny ar ôl proses o gynnal cyfweliadau, meddai.
Mae’r Eglwys yng Nghymru bellach wedi ailagor y broses o geisio penodi rhywun i’r swydd, a hynny'n barhaol, gyda dyddiad cau ar gyfer 29 Ebrill.
Bydd y Coleg Etholiadol yn cyfarfod rhwng 16 a 18 Mehefin 2026 yn Eglwys y Drindod Fair, Llandudno, i ethol Esgob nesaf Bangor, meddai’r Eglwys yng Nghymru.
“Mae esgobaeth Bangor wedi bod drwy’r felin dros y flwyddyn ddiwethaf, rhwng ymddeoliad ei hesgob hirhoedlog ym mis Awst 2025, y sylw mawr i’r esgobaeth ar y cyfryngau a’r craffu allanol cyffredinol, yn enwedig ar yr eglwys gadeiriol,” meddai manyldeb yr hysbyseb swydd.
“Mae'r esgobaeth yn codi unwaith eto ar ei thraed ar ôl yr anawsterau a brofwyd, ac er y bydd rhan bwysig o weinidogaeth yr esgob newydd yn sensitif i'r angen am ofal parhaus i'r rhai sydd wedi'u cleisio gan ddigwyddiadau diweddar, mae'r angen am obaith a gweledigaeth ar gyfer y dyfodol yn hollbwysig.”
Y cefndir
Daw hyn ar ôl cyfnod cythryblus i'r Gadeirlan a'r Esgobaeth, gydag adroddiadau o gamymddwyn a arweiniodd at ymddeoliad sydyn Esgob Bangor ac Archesgob Cymru, Andy John, ddiwedd mis Mehefin y llynedd.
Does dim awgrym bod y cyn-Archesgob ei hun wedi camymddwyn.
Ym mis Medi y llynedd dywedodd llefarydd fod y sefydliad yn wynebu diffyg ariannol gweithredol o £300,000 erbyn diwedd 2025, a'u bod yn cynnal ymgynghoriad ar ddiswyddiadau posibl.
Yna fe gyhoeddwyd adroddiad ym mis Mawrth eleni oedd yn edrych ar waith dwy elusen o fewn yr Esgobaeth, sef Bwrdd Cyllid Esgobaethol Bangor (BCEB) ac Ymddiriedolaeth Esgobaethol Bangor (YEB).
Roedd yr adroddiad hwnnw yn disgrifio "dirywiad llywodraethiant da a phrosesau priodol o fewn yr elusennau dros gyfnod o bum mlynedd neu fwy”.
Daw'r adroddiad i'r casgliad y dylai'r elusennau hyn "fod wedi’u harwain gan leygwyr, a dylai’r BCEB fod wedi gweithredu fel gwrthbwysedd a chyfaill beirniadol i ffocws gweinidogaethol yr Esgob."
"Collwyd y tensiwn cadarnhaol hwnnw, a chollodd byrddau’r ymddiriedolwyr olwg ar eu swyddogaeth a’u pwysigrwydd," meddai awduron yr adroddiad, sef Jim Clifford OBE ac Alice Hulbert o Sonnet Advisory & Impact, arbenigwyr ym maes elusennau.
Roedd yr adroddiad yn cydnabod bod "cynnydd sylweddol wedi’i wneud i unioni’r sefyllfa" erbyn hyn.
Roedd ymgais i benodi esgob dros dro ar ddechrau’r flwyddyn ond mewn datganiad ym mis Chwefror dywedodd Archesgob Cymru, Cherry Vann, bod "rhaid i unrhyw broses o ddirnad fod yn agored i’r posibilrwydd nad yw’n briodol bwrw ymlaen yn y ffordd yr oeddem wedi gobeithio”.
"Dyna sydd wedi digwydd ar yr achlysur hwn, ac felly ni fyddwn yn bwrw ymlaen â phenodi esgob dros dro,” meddai.
"Yn hytrach, rwy’n mynd i ofyn i Bwyllgor Sefydlog y Corff Llywodraethu ailgychwyn proses y coleg etholiadol."
