Torcalon i'r Scarlets yng ngemau ail-gyfle'r Bencampwriaeth Rygbi Unedig
Mae'r Scarlets allan o gemau ail-gyfe'r Bencampwriaeth Rygbi Unedig ar ôl colli 33-21 i Leinster.
Fe heriodd y Scarlets y tîm o Iwerddon yn rownd yr wyth olaf y gystadleuaeth yn Nulyn brynhawn Sadwrn.
Leinster dechreuodd gyflymaf wrth iddyn nhw sgorio dau gais o fewn y 10 munud cyntaf a mynd 12-0 ar y blaen.
Er hynny fe wnaeth y Scarlets barhau i roi pwysau ar y tîm cartref ac fe dalodd yr ymdrech wrth i Tom Rogers groesi'r llinell gais i'w gwneud hi'n 12-17.
Ciciodd Sam Prendergast gic gosb i ymestyn mantais Leinster cyn i'r Cymro Blair Murray sgorio eiliadau cyn hanner amser.
15-14 oedd y fantais i Leinster ar yr egwyl.
Bum munud wedi i'r ail hanner gychwyn fe wnaeth Jamie Osborne ymestyn mantais Leinster unwaith eto cyn i Hugo Keenan roi'r Gwyddelod 27-14 ar y blaen gydag 20 munud yn weddill.
Fe wnaeth y Scarlets barhau i frwydro a 10 munud cyn y chwiban olaf fe sgoriodd Johnny Williams i roi llygedyn o obaith i'r ymwelwyr.
Ond roedd dwy gic gosb gan Prendergast yn ddiwedd ar obeithion y Scarlets, gan sicrhau lle i Leinster yn y rownd gynderfynol.