Apêl am wybodaeth ar ôl darganfod dyn yn farw ger beic cwad
Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth wedi i ddyn farw ar ffordd yr A465 rhwng Rhymni a Dowlais yn gynnar fore dydd Sadwrn.
Daeth swyddogion o hyd i feic cwad oedd wedi troi drosodd ar y ffordd am tua 04.50 y bore.
Aeth yr heddlu i'r lleoliad, ynghyd â pharafeddygon o Wasanaeth Ambiwlans Cymru, ac fe gyhoeddwyd bod dyn oedd wedi ei ddarganfod wrth ymyl y beic cwad wedi marw yn y fan a’r lle.
Hoffai swyddogion sy’n ymchwilio i’r amgylchiadau a arweiniodd at y gwrthdrawiad siarad ag unrhyw un oedd yn teithio ar yr A465 tua’r gorllewin, rhwng Rhymni a Dowlais, rhwng 01.30 a 04.50 ddydd Sadwrn.
Gall unrhyw un sydd â manylion ffonio 101 neu anfon neges uniongyrchol at yr heddlu ar gyfryngau cymdeithasol, gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2500171434.